10.2.12

Nid drwy floeddio am 'Annibyniaeth' mae byw yn annibynnol fel Cymry, Dafydd Elis-Thomas

Mae codi cwestiwn refferendwm arfaethedig Prif Weinidog yr Alban ‘A ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?’ wedi newid gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig (DU) am byth. Mantais gofyn y cwestiwn yw ei fod wedi rhoi cyfle i gabinet galluog fy nghyfaill Alex Salmond allu diffinio ei ystyr; fel gyda’r ail gwestiwn posib am ddatganoli cyflawnach sy’n gyfystyr â chydraddoldeb ffederal yn ynysoedd Prydain a thua hanner Gogledd Iwerddon (fel y byddai Gwyn Alf Williams yn disgrifio’r lle!)

Rhaid i ni weld beth fu’r ymateb yng Nghymru, heb geisio osgoi ystadegau’r pôl piniwn diweddara gan ITV Cymru/YouGov. Pan ofynnwyd i sampl o fil ‘sut y dylai Cymru gael ei llywodraethu yn y DU heb yr Alban?’ fe atebodd 32% y dylai Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol gael mwy o rymoedd. 10% oedd am weld Cymru ‘annibynnol o’r Deyrnas Unedig’. Roedd 40% o gefnogwyr y Ceidwadwyr am fanteisio ar symudiad yr Alban i ddileu datganoli yn llwyr drwy gael gwared a’r Cynulliad. Dyna rybudd clir i ormod sy’n fodlon cydweithio fel rhyw gyd-wrthblaid â nhw yn y cynulliad presennol, heb sôn am mewn llywodraeth!

Yr ystadegyn pwysicaf yn ôl rhai cyfryngau yw mai dim ond traean (33%) sef lleiafrif o bleidleiswyr Plaid Cymru oedd am weld Cymru ‘annibynnol’ yn dilyn newid yn yr Alban. Doedd dim yn newydd yn y ffigwr hwn. Mae'n tua'r un peth ag ystadegau astudiaethau sylweddol yr Athrawon Roger Scully a Richard Wyn Jones o farn wleidyddol yng Nghymru ar 'ddatganoli' gan gynnwys y rhai a gomisiynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2008 cyn y refferendwm. Rhaid rhagdybio felly mai dyma farn ystyriol mwyafrif pleidleiswyr Plaid Cymru. Wrth ystyried yn ddeallus sut y gellir symud y farn gyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys pleidleiswyr y Blaid, tuag at farn gyhoeddus yr Alban, bydd yn rhaid i arweinydd nesaf Plaid Cymru gydnabod maint yr her, a bod yn onest ynglŷn â hynny gydag aelodau.

Fel un a fwriodd flynyddoedd o brentisiaeth yn datblygu’r ddealltwriaeth o gyfansoddiad Cymru rwy’n awchu am y cyfle hwn i sicrhau mwy o rym i Gymru a’i phobl. Rydw i’n hyderus fod hyn yn bosib dim ond i’r arweiniad a gynigir fod yn un sy’n onest, yn ddeallus, yn barod i wrando ar bobl, ac yn etholadwy. Yn 1999 pan etholwyd fi gan fy nghyd-aelodau yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol fe welais yn syth bin nad oedd y corff yn gynaliadwy fel yr oedd, yn gymysg o gynulliad a llywodraeth ac un corff o swyddogion yn weision suful yn rhedeg y ddau. Roedd y pwerau deddfu yn llai na Gweinidog gwladol yn yr Hen Swyddfa Gymreig. Aethom ati i ddangos i bobol Cymru ddydd ar ôl dydd nad oedd hyn yn ddigon da.

CHWARAE’R GÊM YN DDEALLUS

Wrth edrych yn ôl heddiw mae’n bwysig sylweddoli cymaint sydd eisoes wedi ei ennill. Ac fe ddaeth y fuddugoliaeth fwyaf mewn refferendwm pan oedd Arweinydd Plaid Cymru yn Ddirprwy Brif Weinidog gydag Arweinydd Llafur Cymru yn Llywodraeth Cymru’n Un. Wrth i’r datblygiadau yn yr Alban beri holi anneallus ar sgriniau ac yn stafelloedd te'r DU bydd y blynyddoedd nesaf yn cynnig y cyfle gorau yn hanes Cymru i ennill mwy eto o ymreolaeth ymarferol hyd at annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) os dymunwn hynny o ddifri. Nid wrth weiddi ‘annibyniaeth’ ar y llinell ystlys y daw hynny, ond wrth chwarae’r gêm yn ddeallus ar draws y maes. Mae’n rhaid inni sicrhau ein bod ni’n manteisio ar bob cyfle i wneud hynny. A dw i’n credu y byddai’r ddealltwriaeth drwyadl o faterion cyfansoddiadol y deyrnas yma yr ydw i wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf o fantais aruthrol imi fel arweinydd y Blaid.

Y peth pwysicaf yr ydw i wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd yw mai drwy ymestyn allan am gefnogaeth newydd a chwilio am dir cyffredin y mae cael y maen i’r wal. Nid trwy ailadrodd ystrydebau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar blesio’ch cefnogwyr craidd - er cymaint y demtasiwn i wneud hynny mewn unrhyw etholiad mewnol. Dwi felly’n benderfynol o weld dyfodol cyfansoddiadol Cymru’n cael y sylw dyladwy dros y blynyddoedd nesaf. A’r un mor benderfynol o godi safon y drafodaeth gyhoeddus ar y pwnc. Fel rydw i eisoes wedi dweud ar lawr y Senedd, rydw i’n croesawu galwad y Prif Weinidog Carwyn Jones am ‘Gonfensiwn’, neu Uwch-gynhadledd efallai, ar y berthynas rhwng gwledydd y DU a’i gilydd, yn lle rhagor o bwyllgorau enwebedig yn adrodd yn unig i Lywodraeth y DU.

Gêm ddifyr i mi ar ymweliadau achlysurol a chwestiynau ar ddydd Llun yn San Steffan yw gwylio ymateb y sefydliad Seneddol yn y DU i’r datblygiadau yn yr Alban. Mae’n rhyfeddol mor gyfyng ydi eu dealltwriaeth o faterion cyfansoddiadol eu gwladwriaeth eu hunain. Un o’r enghreifftiau doniolaf o hyn oedd y Canghellor George Osborne yn awgrymu y byddai angen i’r Alban pe byddai yn wlad annibynnol gael ‘caniatâd’ y Trysorlys yn Llundain i gael defnyddio’r bunt. Digon tebyg i ddadl Peter Hain AS y byddai’n rhaid i’r Alban ail-negodi ei haelodaeth bresennol a’r Undeb Ewropeaidd (UE) fel pe bai yn ymuno o’r newydd! Fe fuon rhaid iddyn nhw dynnu eu geiriau’n ôl yn bur fuan yn hyn o beth wrth gwrs! Wrth geisio cyflwyno annibyniaeth fel dewis simplistig, haearnaidd a di-droi’n-ôl, y cyfan mae’r sefydliad unoliaethol yn y DU yn ei ddangos yw eu diffyg gweledigaeth a’u diffyg dealltwriaeth o faterion cydwladol!

Pe bawn i’n gweithio yn yr Alban rŵan fel y bum ddechrau’r nawdegau yng Nghanolfan Moeseg, Athroniaeth a Materion Cyhoeddus Prifysgol St Andrews, prin fod angen dweud y byddwn i gant y cant y tu ôl i Alex Salmond a Nicola Sturgeon a’r gweddill o Gabinet yr SNP yn eu hymgais i ennill hynny ag sy’n bosibl o rym i bobl yr Alban. Mae’n gwbl amlwg hefyd fod eu dealltwriaeth nhw o gyfansoddiad y DU yn rhagori’n sylweddol ar y sefydliad Prydeinig y DU tua Llundain! Ond wrth orfod esbonio’r hyn a olygir yn hollol wrth y gosodiad sy’n cael ei gynnig fel y cwestiwn ar y papur pleidleisio sef ‘y dylai’r Alban fod yn wlad annibynnol’, mi fydd yn rhaid i’w cefnogwyr hwythau ddechrau diffinio union natur y wladwriaeth yr hoffen nhw ei gweld yn yr Alban.

Os ydyn nhw’n cadw’r bunt - fel mae’n ddigon rhesymol a phragmataidd iddyn nhw ei wneud wrth gwrs - mae’n golygu mai Banc Lloegr fyddai’n gosod cyfraddau llog, grym cwbl allweddol wrth reoli unrhyw economi. Pe bai’r Alban yn awyddus i gael rhywfaint o lais ym mhenderfyniadau Banc Lloegr, mi fyddai hynny’n golygu cydymffurfio â rheolau caeth ar fenthyciadau cyllidol. Tasg yr un mor ofalus i Gabinet yr SNP fydd diffinio union ystyr y gair newydd sydd wedi dod i’n geirfa - ‘devo max’. Mae’n derm sy’n hyblyg yn ei hanfod, ond mi fyddwn i’n credu mai’r diffiniad symlaf fyddai ennill hynny ag sy’n bosibl o rym i’r Alban a’i phobl. Fe wn i’n iawn fod Alex Salmond a’i gynghorwyr yn gweithio’r un mor galed o dan yr wyneb i glymu aelodau meddylgar pleidiau eraill wrth y dewis hwn yn ogystal â chyhoeddi rhinweddau bod yn wlad annibynnol.

NID YR ALBAN YW CYMRU!

Mae unrhyw astudiwr arwynebol yn mynd i sylwi yn syth ar y gwahaniaeth rhwng hanes, diwylliant a bywyd cenedlaethol yr hyn a alwn braidd yn gamarweiniol weithiau yn ‘wledydd Celtaidd’! Pe bai yn dacteg gan rai yng ngwleidyddiaeth yr Alban, a dydwi ddim yn honni o reidrwydd ei fod, i ddadlau dros fod yn wlad annibynnol er mwyn sicrhau rhyw ffurf neu’i gilydd o ‘devo max’ dydi o ddim yn dilyn o gwbl y byddai strategaeth o’r fath yn gweithio yng Nghymru. Fel y gwelsom mae’r gefnogaeth yng Nghymru i’r hyn a elwir yn annibyniaeth yn llai na thraean yr hyn ydi o yn yr Alban. Bychanu’n hunain fyddai gweld hyn fel rhyw destun cywilydd a gwarth cenedlaethol. Llawer iawn mwy adeiladol fyddai inni feithrin dealltwriaeth o’r rhesymau hanesyddol ac economaidd drosto. I nodi un peth amlwg, mae gorddibyniaeth economi Cymru ar y sector cyhoeddus yn un ffactor cwbl allweddol.

Mae’n sicr y byddai yna garfan fechan o blith Plaid Cymru yn cael rhyw fath o gysur ysbrydol o glywed yr un ystrydebau cenedlaetholgar yn cael eu pregethu’n barhaus. Mab i bregethwr gyda’r Presbyteriaid ydw innau, er mod i bellach yn Eglwyswr, ond pwyslais ar weithredoedd, glywais i o bulpudau ar hyd fy oes. Dyna pam mod i’n croesawu’r rhybudd yn yr adroddiad Camu ‘Mlaen y “dylai'r Blaid fod yn ofalus rhag ymddangos fel pe na bai'n ymddiddori mewn dim ond materion cyfansoddiadol”. Rhaid deall hefyd y byddai oblygiadau pur sylfaenol i osod annibyniaeth fel prif bwnc ein holl weithgaredd gwleidyddol. A fyddai’r Blaid felly’n rhoi’r gorau i unrhyw ymdrechion i ddadlau dros ffordd decach na fformiwla Barnett o ddyrannu adnoddau’r wladwriaeth i Gymru? Neu i sefydlu datblygiad cynaliadwy yn ganolog yng ngwaith Llywodraeth Cymru a bywyd y wlad, y cyfandir a’r byd.

Mi fyddwn i’n dadlau’n daer mai’r flaenoriaeth felly yw sicrhau cefnogaeth y farn gyhoeddus yng Nghymru i gryfhau’n sefydliadau gwleidyddol er mwyn gwarchod a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru, ac felly ddatblygu bywyd cynaliadwy ein rhan ni o’r byd. Credaf fod Camu 'Mlaen wedi taro’r hoelen ar ei phen wrth ddweud bod “angen i Blaid Cymru fapio'n fanylach y camau cyfansoddiadol sydd yn eu barn hwy yn ddymunol.” Cytunaf hefyd â’r camau a awgrymir i anelu atynt sef sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol benodol Gymreig, gan gynnwys datganoli’r pwerau dros blismona a throsglwyddo pwerau dros feysydd megis benthyca, threthu, darlledu ac ynni gan weithredu holl argymhelliad Comisiwn Richard a adroddodd i Lywodraeth Cymru i symud o fodel ‘pwerau a ddatganolwyd’ i fodel ‘pwerau a gadwyd’ yn unol â’r model Albanaidd ac argymhellion Comisiwn Richard.

Byddwn yn ychwanegu’r angen i ddileu swydd ‘led-drefedigaethol’ Yr Ysgrifennydd Gwladol, a chefnogi datganoli i Senedd Lloegr, gan symud tuag at gydraddoldeb yn y DU rhwng y gwledydd. Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu gosod graddau’r gefnogaeth i amcanion o’r fath, yn ogystal â chefnogaeth i’r Blaid, fel meini prawf i fesur llwyddiant. Cytunaf yn llwyr â hyn, ond byddwn yn mynd un cam ymhellach - y maen prawf pwysicaf un ddylai fod y graddau yr ydym yn llwyddo i gyflawni’r amcanion yma.

MEWN UNDOD EWROPEAIDD YN UNIG MAE ANNIBYNIAETH YN BOSIB

Datblygiad cynaliadwy yw’r annibyniaeth newydd ar gyfer yr 21 ganrif gan ei fod y ein tynnu mas o bob dibyniaeth amgylcheddol ac economaidd i gyd-ddibyniaeth. Dyna oedd neges ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’. Dyna pam rydw i’n benderfynol hefyd o weld y Blaid yn meithrin gweledigaeth fwy eangfrydig yn ei hagwedd at Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd (UE). Rhaid rhoi mwy o sylw i’r datblygiadau ar dir mawr Ewrop nag a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf. Mae sôn am unrhyw amcanion hirdymor yn ddiystyr oni bai eu bod nhw wedi cael eu gosod mewn cyd-destun ehangach. Ofer fyddai unrhyw ystrydebu ynghylch ‘annibyniaeth’ oni bai ein bod ni’n diffinio’n union y math o bwerau y dylai Cymru eu cael. Mae angen gweledigaeth glir o safbwynt pa benderfyniadau a ddylai gael eu cymryd gan wladwriaethau unigol a pa rhai ar lefel yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn ysgrif feistrolgar, ‘Lloegr, Ewrop a Chymru’, roedd Saunders Lewis yn dadlau mai “dwyn undod politicaidd ac economaidd i Ewrop yw un o anghenion cyntaf ein canrif ni”. Bron i ganrif yn ddiweddarach, mi allwn ni ymfalchïo wrth weld cymaint o flaen eu hoes oedd sylfaenwyr ein plaid. Mae geiriau fel hyn, a phwyslais yr arweinwyr cynnar ar gyd-ddibyniaeth cenhedloedd, yn cynnig gwrthgyferbyniad goleuedig i werthoedd David Cameron a’r Unoliaethwyr Gwrth-ewropeaidd yn y Blaid Dorïaidd a’r wasg ynysig efo’u syniad UKIP-aidd o sofraniaeth. Mi ddylen ni fel plaid fod ar flaen y gad wrth ddirmygu cenedlaetholdeb gwladwriaethol cul fel hyn, gan osgoi’r demtasiwn o ddefnyddio’r un math o ieithwedd ein hunain. Os ydan ni o ddifri ynghylch gweld diflaniad y DU fel hen wladwriaeth ôl-drefedigaethol gyda’r gweddill ohonynt allan o fywyd Ewrop yna mae synnwyr cyffredin yn dweud cymaint mwy anodd fydd gwneud hynny os byddwn yn ymbelláu oddi wrth y broses o undod gwleidyddol sy’n digwydd ar dir mawr Ewrop. Mae’n holl bwysig ein bod ni’n sylweddoli cyfyngiadau cenedl wladwriaethau fel ffurfiau addas o lywodraeth a chefnu ar ryw syniadau ugeinfed ganrif fel sofraniaeth.

Dw i’n benderfynol o weld y Blaid yn codi i’r her o addasu i anghenion oes newydd, gan aros yn driw i rai o’r gwerthoedd pwysicaf sy’n perthyn inni fel plaid hanesyddol. Os caf fy ethol, dydw i ddim yn addo pregethu’r hyn y bydd ar aelodau’r Blaid eisiau ei glywed bob amser. Rwy’n ymrwymo i roi fy holl brofiad ar waith i ymestyn allan at gefnogaeth newydd er mwyn sicrhau hynny ag sy’n bosib o rym yn yr amser presennol, nid mewn rhyw ddyfodol dychmygol dros y gorwel draw, i Gymru a’i phobl.

Dafydd Elis-Thomas, Chwefror 2012

Gwefan: www.dafyddelisthomas.org
Ebost: Dafydd.elis-Thomas@cymru.gov.uk
Trydar: @ElisThomasD
Facebook: facebook.com/profile.php?id=100000681303381

1 comment:

Dafydd said...

"Mae’n holl bwysig ein bod ni’n sylweddoli cyfyngiadau cenedl wladwriaethau fel ffurfiau addas o lywodraeth a chefnu ar ryw syniadau ugeinfed ganrif fel sofraniaeth."

Gwaetha'r modd i dy weledigaeth di, Dafydd, nid oes un aelod sofran or Cenhedloedd Unedig wedi rhoi'r gorau i'w sofraniaeth. Maent i gyd yn genfigennus o'r statws.

Gweler y DU heddiw, ac amharodrwydd y pleidiau undebol i'r Alban gael rhyddid o sofraniaeth San Steffan.

Os buasai'r SNP wedi dy ethol di fel ei llywydd, ni fuasent yn trefnu refferendwm sofranieth o gwbl.