8.2.12

Cyfeiriad Gwleidyddol Newydd: Annibyniaeth, gan leanne Wood

"Mae annibyniaeth gwirioneddol yn gyfnod o greu newydd a gweithredol: pobl yn ddigon sicr o’u hunain i daflu eu beichiau; gwybod bod y gorffennol yn perthyn i’r gorffennol, fel llunio hanes, ond gyda synnwyr hyderus newydd o’r presennol a’r dyfodol, lle y bydd yr ystyron a’r gwerthoedd tyngedfennol yn cael eu ffurfio."

Raymond Williams, 1975


Mewn cyfnod o dair blynedd yn unig y mae’r cyd-destun gwleidyddol yng Nghymru a’r byd wedi newid yn rhyfeddol. Dylai’r argyfwng bancio yn 2008 fod wedi tanseilio ac esgor ar wrthod cyfalafiaeth a nifer o’i dybiaethau economaidd a gwleidyddol sylfaenol. Mae rhaglenni llymder a lefelau uchel o ddiweithdra yn rhoi pwysau mawr ar bobl, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd wrth i effeithiau prisiau ynni a newid hinsawdd godi ofn. Mae pob gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd yn wynebu ansicrwydd economaidd a nifer ohonynt, bach a mawr, mewn argyfwng economaidd difrifol. Mae dyfodol yr holl brosiect Undeb Ewropeaidd bellach mewn perygl. Os yw platiau tectonig cyfalafiaeth yn dangos arwyddion o fod dan bwysau, yna yn nes adref creodd yr etholiadau diweddar yn yr Alban gynnwrf yn y wladwriaeth Brydeinig. Mae’r ôl gryniadau yn dilyn digwyddiadau ym mharthau Ewrop ac ymateb Prydain yn debygol o gael eu teimlo am gryn amser i ddod. Mae cwestiynau ynglŷn â gallu Cymru i greu deddfau o fewn amrediad cyfyngedig o feysydd polisi datganoledig wedi’u hateb yn bendant gan y refferendwm fis Mawrth y llynedd. Mae’r camau nesaf i Gymru, a wrthododd y rhaglen o doriadau’r Ceidwadwyr/Democratiaid Rhyddfrydol sydd bellach yn effeithio yn anghymesur arnom, eto i’w penderfynu.

Wrth i Blaid Cymru gynnal adolygiad mewnol a dechrau ar y broses o ethol arweinydd newydd i lywio’r blaid i gyfnod newydd, mae hwn yn gyfle da i ystyried sut yr ydym yn ymateb i’r cyd-destunau newydd hyn. Sut gallwn ni sicrhau bod y gwerthoedd a’r athroniaeth sydd yn waelodol i farn gwleidyddol Plaid Cymru yn cyfrannu at adeiladu Cymru sydd yn economaidd ddichonadwy wedi’r dirwasgiad, ac wedi Prydain? Nid yw cadw ein pennau yn isel a pharhau i siarad iaith rheolwriaeth mewn cyfnod o argyfwng yn ddewis.

Dros annibyniaeth

Mae’n amlwg o’r trafodaethau yng nghynhadledd ddiweddar Plaid Cymru bod datblygiadau yn yr Alban wedi annog aelodaeth Plaid Cymru i feddwl am y posibiliadau ar gyfer Cymru. Roedd yr hyn oedd yn ymddangos bron yn amhosibl cyn mis Mai y llynedd bellach yn ymddangos yn bosibl, a hyd yn oed o fewn cyrraedd. Mae’r cwestiwn ‘beth ydy’n diben ni?’ a holwyd yn dilyn y bleidlais ‘Ie’ lwyddiannus fis Mawrth diwethaf wedi ei ateb: nid yw Plaid Cymru erioed, ac ni fyddai erioed, yn derbyn sefyllfa lle rydym yn cael ein hystyried yn ail i’r Alban. Mae pobl Cymru yn gwybod bod ein synnwyr o hunaniaeth cenedlaethol yr un mor gryf â synnwyr hunaniaeth ein chwriorydd a’n brodyr yn yr Alban a Lloegr. Mae Plaid Cymru yn sefyll dros annibyniaeth i Gymru.

Ond nid yr Alban yw Cymru. Tra bod llawer y gall Plaid Cymru ei ddysgu oddi wrth yr SNP mae pleidiau eraill o fewn y grŵp Cynghrair Rhyddid Ewropeaidd (EFA) y dylem ddysgu oddi wrthynt a chreu cysylltiadau cryfach â nhw. Mae’r Bloque Nacionalista Galego (BNG) o Galicia neu’r PNC (Corsica) neu’r UDB (Llydaw) yn debycach i Gymru ac i Blaid Cymru o ran eu statws cymdeithasol economaidd, ieithyddol a gwleidyddol, yn ogystal â’u huchelgeisiau a’u golwg economaidd. Mae’r dair yn werdd ac ar ochr chwith y sbectrwm gwleidyddol – yn agos at ble mae Cymru a’r Blaid.

Y cwestiwn ‘allwn ni ei fforddio?’

Byddai’r rhan fwyaf ohonom sydd eisiau annibyniaeth i Gymru yn derbyn bod cyflwr gwan economi Cymru yn golygu y byddem yn cael trafferth i fforddio bil lles cyfredol Cymru. Yr hyn sydd yn cyfrannu’n fawr at y gwendid hwn yw’r nifer uchel o bobl sydd yn ddibynnol ar fudd-daliadau’r wladwriaeth. Mae rhesymau hanesyddol a gwleidyddol dros hyn. Tra na fyddai gan Blaid Cymru ddim amynedd gyda beio pobl sydd yn ddiwaith am ddiweithdra, ni fyddem chwaith yn ceisio cosbi’r rhai sydd yn ddibynnol ar fudd-daliadau’r wladwriaeth, fel y mae’r pleidiau unoliaethol Prydeinig yn ei wneud. Rhaid mynd i’r afael â’r nifer uchel o bob sydd yn ddibynnol ar fudd-daliadau lles mewn unrhyw ymgais o ddifrif i wyrdroi economi Cymru. Gellid gwneud hyn trwy ddarparu cefnogaeth ac anogaethau i bobl i ffurfio eu mentrau creu gwaith eu hunain ac adeiladu Cymru o’r gymuned i fyny, a defnyddio mesurau tebyg i’r rhai a gynigir yn y ddogfen ‘Greenprint’.

Mae’n anhebygol y byddai trafodaethau cyfansoddiadol yn cydio yn nychymyg pobl yn gyffredinol oni bai bod ganddynt ddiddordeb byw mewn gwleidyddiaeth. Y cwestiwn mwyaf sydd yn wynebu’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru heddiw yw sicrwydd economaidd eu hunain a’u teuluoedd. Mewn cyfnod cymharol fyr mae swyddi diogel mewn perygl. Bydd toriadau yn y sector cyhoeddus yn taro galetaf yng Nghymru lle mae’r sector cyhoeddus yn ganran uwch o’r economi nag mewn rhannau eraill o’r wladwriaeth Brydeinig. Mae’r farchnad wedi methu â darparu swyddi mewn rhannau o Gymru ers yr 1980au a chyn hynny, ac felly mae’r siawns y bydd y sector cyhoeddus yn llenwi’r bwlch a gaiff ei greu gan y sector cyhoeddus yn ystod yr hyn sydd yn ddirwasgiad dwfn yng Nghymru, yn denau. Mae perygl y bydd y problemau cymdeithasol sydd yn gyffredinol gysylltiedig gyda diffyg cyflogaeth, neu gyflogaeth o ansawdd isel, yn ehangu ac yn dwysau oni bai bod camau cadarn yn cael eu cymryd i newid dirywiad economaidd ein gwlad. Rhaid i Blaid Cymru roi blaenoriaeth i strategaethau all gyflwyno cyflogaeth llawn.

Yn ôl y cymdeithasegwr Michael Hechter, mae datblygiad economaidd Cymru yn nodweddiadol o economïau trefedigaethol eraill fel y rhai yn America Ladin: economïau a adeiladwyd i hwyluso allforio unrhyw adnoddau naturiol gwerthfawr yn hawdd. Gyda seilwaith economaidd a adeiladwyd i sicrhau cludo prif gynnyrch y wlad, glo, allan o’r wlad mae Cymru hyd heddiw wedi ei llesteirio gan system drafnidiaeth fewnol lle mae pob llinell gyfathrebu yn arwain at “ y brifddinas imperialaidd neu’r porthladdoedd’. Mae’r seilwaith hwn, yn ogystal â statws ‘ymylol’ Cymru yn cyfrannu at wendid strwythurol annorfod yn economi Cymru. Roedd Leopold Kohr, proffwyd ein hargyfwng cyfredol, yn dadlau na ellir atal y llif tuag at y canol ‘trwy dywallt pytiau adnewyddol o ddiwydiant newydd mewn dull haelionus i’r ymylon’. Mae gwaith Kohr yn esbonio methiant cronfeydd cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag ymdrechion aflwyddiannus eraill blaenorol i hybu economi Cymru. Mae gan economi Cymru gwendidau strwythurol na ellir eu cywiro trwy chwarae gyda nhw. Dim ond pan fo pobl Cymru, yn eu holl amrywiaeth, mewn sefyllfa i ail lunio yn sylfaenol eu seilwaith economaidd mewn ffordd sydd yn ateb eu hanghenion a phan nad ydynt bellach yn gorwedd ar erchwyn ymylol gwladwriaeth Brydeinig eithriadol o anghyfartal y gellir cywiro’r ffaeleddau hyn. Dim ond trwy annibyniaeth y gellir gwella canlyniadau economaidd Cymru a’u gwneud yn gyfartal gyda’r rhannau eraill hynny yn y wladwriaeth Brydeinig neu’r Undeb Ewropeaidd. Annibyniaeth yw’r cyfrwng i hybu economi sydd wedi bod yn aros yn ei hunfan am bron i ganrif.

Swyddi, swyddi, swyddi …

Yn y cyfamser, mae’r argyfwng economaidd dwys yn mynnu atebion i fynd i’r afael â diweithdra nawr. Pe bai gan Lywodraeth Cymru y gallu i amrywio budd-daliadau yn ogystal â rheolau trethi byddai hynny’n hwyluso cynllun swyddi ‘Adeiladu Cymru’ a fyddai’n ceisio darparu swydd i bawb sydd yn gallu gweithio gan helpu ail adeiladu seilwaith economaidd Cymru mewn modd a fyddai o fudd i bobl sydd yn byw yng Nghymru. Dyma gynnig rhesymau cadarn dros ddatganoli pwerau o’r fath.

Yn ei lyfr ‘Is Wales Viable’ (1971) mae Leopold Kohr yn cefnogi datblygiad marchnad fewnol neu ‘gartref’ lle mae’r arian sydd yn cael ei ennill yng Nghymru yn cael ei wario yng Nghymru ac yn ysgogi gweithgaredd economaidd lleol a fyddai yn ei dro yn creu swyddi. Byddai dull ‘mae bach yn hardd’ fel y mae Kohr yn ei annog, yn cefnogi mentrau lleol bach dros y cwmnïau rhyngwladol. Dylid cael cefnogaeth ariannol ac ymarferol i ddod â marchnadoedd newydd i nifer o gwmnïau bach i’w hannog i gyflogi un neu ddau o hyfforddeion neu weithwyr newydd i feithrin gallu fel bod modd iddynt dendro am gontractau nwyddau neu wasanaethau cyhoeddus lleol. Gallai’r adroddiad gan Adam Price a Kevin Morgan (The Collective Entrepreneur, 2011) ar gaffael cyhoeddus a menter cymdeithasol fod o gymorth i lywio’r gwaith hwn.

Wrth ei farchnata yn greadigol gallai ‘brand’ Cymreig o gynnyrch wedi’i gynhyrchu’n lleol mewn dull masnach deg/cydweithredol ddod yn adnabyddus ledled y byd fel rhywbeth naturiol ac iach. Gyda chefnogaeth, gellir ymestyn (ar gyfer defnydd mewnol neu allforio) ar sectorau megis bwyd, y diwydiannau creadigol, technoleg gwyrdd a gweithgynhyrchu cynnyrch terfynol ar gyfer marchnadoedd ‘niche’.

Nid yw’r brwydro byd-eang dros reolaeth olew a’r darogan am olew brig yn mynd i ddiflannu. Os yw economi Cymru yn mynd i gael ei datblygu’n gynaliadwy, mewn dull sydd yn cyd-fynd gydag ymrwymiad ein plaid i gyfrannu at ymdrechion y byd i fynd i’r afael â newid hinsawdd, rhaid i’n cynllun economaidd osod datblygu cynaliadwy wrth galon ein holl bolisïau, a chynnwys mesurau a fydd yn sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio ar gyfer y pontio i economi nad yw’n ddibynnol ar danwydd ffosil. Fel y gwnaethpwyd yn Denmarc rhaid i bobl Cymru gael rheolaeth a pherchnogaeth lawn o adnoddau naturiol os ydym yn mynd i atal yr arian sydd yn llifo o Gymru. Dylai’r gwaith a’r elw a wneir o hynny gael ei gadw yn lleol lle mae hynny’n bosibl. Rhaid ystyried diogelwch ynni, er mai’r newyddion da yw fod Cymru eisoes yn hunan gynhaliol mewn trydan – rydym yn allforio ein trydan a’n dŵr sydd dros ben ac felly mae gennym lawer i’w adeiladu arno.

Gallai buddsoddi mewn, ac annog cwmnïau cydweithredol yn eiddo i’r gweithwyr fel yr hyrwyddwyd gan DJ a Noelle Davies yn yr 1930au a’r 1940au, yn gysylltiedig gyda sefydliadau addysg helpu i adeiladu sgiliau i sicrhau llafur lleol. Gallai gweithwyr medrus yn y sector cyhoeddus gael dewis llai o oriau gweithio i gyfrannu tuag at fentrau o’r fath. Gallai cynllun economaidd wedi’i ysbrydoli gan Davies/Kohr i symud oddi wrth economi tanwydd ffosil a datblygu marchnad fewnol i greu galw am waith yn lleol, ddechrau gyda rhaglen insiwleiddio cartrefi gan dargedi ardaloedd o dlodi tanwydd uchel a thrwy hynny lleihau marwolaethau ychwanegol y gaeaf yn deillio o dlodi tanwydd ymysg pobl hŷn, tra’n cefnogi busnesau lleol bach a chwmnïau cydweithredol i wneud y gwaith hwn. Byddai hyn yn creu swyddi ac yn helpu i gwrdd ag ymrwymiadau Cymru i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr o 40% erbyn 2020 ac i weithio tuag at Gymru Un Planed – byw oddi mewn i’n gallu adnoddau gan ddefnyddio ein cyfran deg o adnoddau naturiol byd-eang y byd yn unig. Byddai hefyd yn helpu i greu gwytnwch i wynebu ergydion prisiau bwyd ac ynni yn y dyfodol.

Gellid cael cyngor ymarferol trwy gysylltu gyda, a dysgu gwersi oddi wrth y Daniaid a’r Basgiaid. Mae ynys Samsø yn Denmarc wedi dod yn 100% hunan gynhaliol mewn trydan adnewyddadwy ac mae rhwydwaith gydweithredol gweithgynhyrchu Mondragon yng Ngwlad y Basg, a sefydlwyd yn yr 1950au fel coleg hyfforddi cydweithredol, ond a ehangodd i weithgynhyrchu yn ystod yr anawsterau economaidd a greodd ddiweithdra uchel yno yn yr 1980au, bellach yn cyflogi miloedd. Gallai ymweliadau astudiaeth i Samsø a Mondragon lywio a hyd yn oed ysbrydoli aelodau Plaid Cymru i gymryd rhan mewn sefydlu a rhedeg cwmnïau cydweithredol o’r fath. Dylid annog gweithgarwch o’r fath fel bod modd i aelodau mewn dull ymarferol iawn gyfrannu at gryfhau economi Cymru.

Cydraddoli canlyniadau

Mae cyfraddau diweithdra ymysg ieuenctid yn uchel iawn mewn rhai mannau. Mae cystadleuaeth i gael addysg neu hyfforddiant, heb sôn am swydd, yn golygu bod diweithdra hir dymor ymysg ieuenctid yn bygwth ychwanegu at y problemau cymdeithasol sydd wedi bod yn datblygu dros y degawdau ers diwedd y diwydiant trwm yng Nghymru. Mae tai fforddiadwy yn broblem gynyddol i bobl ifanc hefyd. Rhaid i unrhyw ymdrechion i adeiladu economi Cymru ddarparu atebion amgen i’r bobl a’r lleoedd lle mae’r farchnad wedi methu: rhaid i weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru annibynnol gynnwys nod bendant i gydraddoli canlyniadau economaidd ar gyfer pob ardal, yn ogystal ag ar gyfer yr holl unigolion sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Er gwaethaf unarddeg mlynedd o dderbyn arian gan yr Undeb Ewropeaidd, mae GDP Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi dirywio o 76% o gyfartaledd Ewrop yn 2000 i 71% heddiw. Gellid wrth gwrs dadlau, heb yr arian hwnnw, y byddai’r sefyllfa yn waeth. Mae GDP yn fesur amrwd nad yw’n gallu cymryd i ystyriaeth anghyfartaleddau mewn ardal benodol. Mae cynllunio ar gyfer twf economaidd parhaus ar fesurau traddodiadol yn anghynaliadwy, ond mae digon o fesurau eraill sydd yn dangos bod gweithgaredd economaidd ac incwm Cymru yn dirywio mewn perthynas â gwledydd a rhanbarthau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid i ddadleuon dros annibyniaeth fynd i’r afael â safle economaidd berthynol Cymru.

Mae cynllun economaidd sydd yn talu sylw neilltuol i grwpiau ac ardaloedd daearyddol yng Nghymru sydd yn cael eu heffeithio yn anghymhesur yn hanfodol os ydym yn mynd i osgoi caniatau parhad economi sydd yn gorboethi yn y canol ar draul yr ymylon. Oni bai bod camau yn cael eu cymryd i ail gydbwyso’r sefyllfa, rydym mewn perygl o greu strwythur economaidd yng Nghymru sydd yn dynwared strwythyr economaidd y wladwriaeth Brydeinig: un sydd yn gweld economïau yn y tir ymylol yr ydym yn byw ynddo – Cymru (yn ogystal â’r gwledydd a’r rhanbarthau eraill) – yn ddibwys o’i gymharu ag economi gorboeth Llundain a’r de ddwyrain. Rhaid i weledigaeth Plaid Cymru gynnwys nod bendant i gydraddoli canlyniadau economaidd i bob rhan o Gymru yn ogystal ag i bob unigolyn sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Nid yw’r cynlluniau a ddatgelwyd yn ddiweddar i sefydlu Parthau Menter yn ceisio cydraddoli canlyniadau ledled Cymru. Byddai parthau menter ‘go iawn’ yn datganoli, er enghraifft, y gwaith o hyrwyddo arbenigedd sectorau neilltuol mewn ‘canolfannau rhagoriaeth’ daearyddol, i ffwrdd o goridorau economaidd llwyddiannus yr M4 a’r A55, gan ddatblygu ‘prifddinasoedd’ Cymreig newydd. Ein harfordir gorllewinol yw un o asedau mwyaf Cymru ac nid yw’n cael ei ddefnyddio’n llawn. Pam na allwn ni geisio anelu’n benodol at ysgogi ardaloedd ymylol Cymru trwy ddatblygu sectorau gweithgynhyrchu niche ‘gwerth ychwanegol’ yn y ‘prifddinasoedd’ newydd – Aberystwyth, Abertawe, Bangor, Casnewydd, Wrecsam ac yn y cymoedd gan ddefnyddio Caergybi, Abergwaun ac Aberdaugleddau fel canolfannau i wella cysylltiadau gydag Iwerddon a thu hwnt ar gyfer allforio?

Cymru Flaengar

Trwy flaenoriaethu’r dasg o ffurfio rhaglen fanwl o greu swyddi sydd wedi’i dylunio i adeiladu Cymru gynaliadwy mewn modd sydd yn anelu ar gydraddoli canlyniadau economaidd, gallai Plaid Cymru gyflwyno gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sydd yn cyd-fynd â thraddodiadau a hanes Cymru a meddwl hir dymor Plaid Cymru.

Er mwyn bod yn wrthbwynt i’r llywodraeth dros y ffin sydd yn eithafol o gystadleuol, imperialaidd/filitaraidd, sydd yn anwybyddu newid hinsawdd ac yn preifateiddio llywodraeth, dylai gweledigaeth economaidd Plaid Cymru fod yn un sydd yn anelu at economi wedi’i datganoli lle mae cyfranogiad pobl mewn gwneud penderfyniadau economaidd lleol yn cael ei ddefnyddio i’r eithaf. Mae ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yn cynnwys cymunedau gweithgar, gwydn wedi’u cefnogi gan wasanaeth cyhoeddus cadarn a seilwaith lles mewn diwylliant gwleidyddol sydd yn mynnu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Gallai ein cynllun swyddi greu darlun o Gymru’r dyfodol sydd yn cymryd ymagwedd economaidd mwy cydweithredol, gwrth filitaraidd, gwrth imperialaidd, cynaliadwy ac o blaid gwasanaethau cyhoeddus a fyddai’n dangos sut y byddai Cymru annibynnol yn wahanol yn wleidyddol ac yn well ar gyfer pobl Cymru, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: yn fwy blaengar ac yn unol â’n gwleidyddiaeth na’r hyn y mae Lloegr-ganol yn pleidleisio drosto yn barhaus, waeth beth fo lliw’r blaid. Nid yw’r wleidyddiaeth sydd yn cael ei arddel gan yr holl bleidiau prif ffrwd ar lefel y wladwriaeth Brydeinig yn arddangos yr un gwerthoedd â’r rhai a gynyrchiolir gan y pleidiau ar lefel Cymru ac mae datganoli wedi darparu gofod gwleidyddol fel bod modd mynegi ac ymestyn yr ystyron a’r gwerthoedd gwleidyddol amgen, gwahanol hyn.

Gan ildio dim i’r propaganda adain dde sydd wedi twyllo nifer o bobl i gefnogi mesurau a fydd yn sicrhau bod y tlotaf mewn cymdeithas yn talu am argyfwng 2008, dylai Plaid Cymru barhau i wrthwynebu rhaglen llymder y wladwriaeth Brydeinig, a ddyluniwyd gan grŵp o filiwnyddion hunanlesol, sydd yn cynnal ymosodiad nas gwelwyd o’r blaen ar fudd-daliadau tra’n darparu dim gobaith am swyddi. Byddai cefnogi rhaglen swyddi wedi’i hanelu at ostwng anghyfartaleddau yng Nghymru a rhwng gwledydd cymharol eraill yn dangos sut y mae’r gwerthoedd sosialaidd yn dal i fodoli yma, a sut y gellir eu cynnwys mewn polisïau all gynnig dewis cadarn i lymder gorfodol. Gall Ed Milliband freuddwydio am symud y tir canol tua’r chwith, ond yng Nghymru rydym eisoes yno. Wedi’u clymu wrth linynau ffedog Llundain, ni all y Blaid Lafur fanteisio ar y cyd-destun Cymreig. Plaid Cymru yw’r unig blaid all ddatblygu gweledigaeth wirioneddol amgen i Gymru, yn seiliedig ar ein hegwyddorion sylfaenol fel pobl ac nid ’unrhyw bobl gyffredin’ fel y cawsom ein hatgoffa gan Gwyn Alf.

Mae’r Alban ar y ffordd i ryddid oherwydd bod llywodraeth SNP gref yn arwain y ffordd, yn darparu sicrwydd ac yn cyfleu hyder sydd wedi galluogi’r bobl i gredu y gall eu gwlad sefyll ar ei thraed ei hun yn economaidd. Mae cefnogaeth yn tyfu dros annibyniaeth yn yr Alban. Mae hyn wedi’i gyflawni er gwaethaf, neu gellid dadlau oherwydd y cyd-destun ecomomaidd sydd wedi newid cymaint. Mae’n debygol bod y rhan fwyaf o bobl yr Alban bellach yn gweld y bydd eu gwlad yn well ei byd pan gaiff ei rhyddhau o’r undeb Prydeinig.

Ennill ymddiriedaeth

Fel yr SNP, rhaid i Blaid Cymru ddod yn blaid fwyaf yn y Senedd. I wneud hynny rhaid i Blaid Cymru ennill ymddiriedaeth pobl gyda chynllun clir a realistig i ddangos sut y gall economi Cymru fod yn llwyddiannus, a chynllun y bydd mwyafrif pobl mewn etholiad yng Nghymru yn fodlon ei gefnogi. Ni fyddwn yn cyrraedd yno oni bai ein bod yn gallu ateb y cwestiwn ‘all Cymru fforddio annibyniaeth?’ yn hyderus ac yn alluog.

Mae gan gynrychiolwyr Plaid Cymru ar bob lefel, yn cynnwys gweithwyr dros y blaid ar lefel cyngor cymuned a stryd, ran i’w chwarae mewn adeiladu cynghreiriau lleol sydd eu hangen i droi ein cynllun swyddi yn realaeth. Byddai gweithgaredd o’r fath yn ein cymunedau yn arddangos yn gadarn ein bod yn gallu fforddio a chyflawni’r hyn yr oedd Raymond Williams yn ei alw yn annibyniaeth ‘go iawn’, lle y byddai ein cysylltiadau economaidd a chymdeithasol yn gwella wrth i anghyfartaleddau gael eu lleihau. Mae’r ddadl dros Gymru annibynol yn ddadl dros ddemocratiaeth gyfranogol o’r math nad yw’n bodoli ar hyn o bryd yn y DU. Mae’r ddadl dros annibyniaeth wedi’i mapio allan gan awduron ac artistiaid, rhai wedi’u crybwyll yma, ond mae hefyd yn ddadl na ellir ei hennill ond trwy ddadleuon economaidd.

Rhaid i ni dderbyn yr her honno.

Leanne Wood, Ionawr 2012

Gwefan: www.leannewood2012.com
Ebost: leanneplaid@gmail.com
Trydar: @leannewood
Facebook: www.facebook.com/profile.php?id=613235070

Cysylltwch â mi trwy un o’r dulliau uchod i ddarllen mwy, i gefnogi ac i gyfrannu i’r ymgyrch.

No comments: