17.7.07

yr Angen am Ymgyrch

Un o'r pethau sydd yn fy nghorddi mewn pob etholiad ydy’r sylw, o ba bynnag parth y daw nad yw annibyniaeth ar yr agenda yn yr etholiad yma. Mae'n fy nghorddi yn bennaf gan fy mod yn gwybod ei fod yn wir. Mae'n fy nghorddi fwy gan fy mod yn rhagweld na fydd annibyniaeth ar yr agenda mewn etholiad byth tra byddwyf fyw, oni bai bod cenedlaetholwyr yn mynnu ei fod yn cael ei osod ar yr agenda.

O dan drefn lle mae cenedlaetholwyr yn gorfod clymbleidio gydag unoliaethwyr, o'r naill ochor i'r sbectrwm neu o bob ochr o'r sbectrwm, bydd cenedlaetholdeb sydd wedi ei gyfyngu i'r achos etholiadol yn unig yn methu, gan na fydd dewis gan genedlaetholwyr ond cyfaddawdu eu cenedlaetholdeb er mwyn plesio eu cynghreiriaid unoliaethol.

Er gwaethaf galwadau ar fy mlog, ar Maes-e , yn y Cymro a'r Western Mail am ymgyrch dros annibyniaeth allbleidiol prin fu'r ymateb.

A oes yna ddwsin o Gymry gwladgarol sy'n fodlon cyd drafod y posibilrwydd o godi Ymgyrch dros Annibyniaeth?

Pe bai lle ac amser yn cael ei drefnu, a oes modd cael gwarant trwy'r sylwadau y daw dwsin, o leiaf, i'r cwrdd?

4 comments:

Huw said...

Dwi efo diddordeb, ond dwi hefyd gyda diddordeb mewn cael annibyniaeth trwy'r ddrws cefn - cefnogi annibyniaeth i Loegr, gan nodi fod gan pawb arall Cynulliad neu Senedd tra fod ganddyn nhw ddim.

Anonymous said...

Fi

Bonheddwr said...

Cwrdd lan yn y Steddfod?

maiojacquess said...

Buy Titanium Cross Necklace - Titanium-Arts.com
Find a cheap Titanium cross necklace. titanium price per ounce Get titanium rod in leg a 100% titanium wedding ring first deposit bonus titanium cup of up to €600 titanium dental implants and periodontics when you register.