25.7.07

Pleidleisiwch dros Annibyniaeth i Gymru nawr!

Mae'r blog yma 'Annibyniaeth i Gymru' wedi cael ei henwebu ar gyfer Blog gwleidyddol gorau Cymru 2007, ac rydym yn falch iawn fod ein chwaer-flog 'Welsh independence' wedi cael ei henwebu hefyd! Pleidleisiwch dros flog 'Annibyniaeth i Gymru' neu 'Welsh independence' yma...

17.7.07

yr Angen am Ymgyrch

Un o'r pethau sydd yn fy nghorddi mewn pob etholiad ydy’r sylw, o ba bynnag parth y daw nad yw annibyniaeth ar yr agenda yn yr etholiad yma. Mae'n fy nghorddi yn bennaf gan fy mod yn gwybod ei fod yn wir. Mae'n fy nghorddi fwy gan fy mod yn rhagweld na fydd annibyniaeth ar yr agenda mewn etholiad byth tra byddwyf fyw, oni bai bod cenedlaetholwyr yn mynnu ei fod yn cael ei osod ar yr agenda.

O dan drefn lle mae cenedlaetholwyr yn gorfod clymbleidio gydag unoliaethwyr, o'r naill ochor i'r sbectrwm neu o bob ochr o'r sbectrwm, bydd cenedlaetholdeb sydd wedi ei gyfyngu i'r achos etholiadol yn unig yn methu, gan na fydd dewis gan genedlaetholwyr ond cyfaddawdu eu cenedlaetholdeb er mwyn plesio eu cynghreiriaid unoliaethol.

Er gwaethaf galwadau ar fy mlog, ar Maes-e , yn y Cymro a'r Western Mail am ymgyrch dros annibyniaeth allbleidiol prin fu'r ymateb.

A oes yna ddwsin o Gymry gwladgarol sy'n fodlon cyd drafod y posibilrwydd o godi Ymgyrch dros Annibyniaeth?

Pe bai lle ac amser yn cael ei drefnu, a oes modd cael gwarant trwy'r sylwadau y daw dwsin, o leiaf, i'r cwrdd?