12.2.07

Rhaid magu perthynas iach a chyfartal rhwng Cymru a gweddill y byd - Gwenllian Lansdown

Datblygu o fod ym mer fy esgyrn ac yn rhan o’m greddf naturiol i fod yn egwyddor gwleidyddol a wnaeth fy ymrwymiad i annibyniaeth. Gyda’r newyddion fod traean o boblogaeth Cymru bellach yn cefnogi annibyniaeth, cynyddu fydd y momentwm ar gyfer trafodaeth gyhoeddus am rinweddau annibyniaeth a hynny, wrth reswm, yng nghyd-destun buddugoliaeth debygol yr SNP yn etholiadau Seneddol yr Alban ym mis Mai.

Mae’r tebygrwydd hynny hefyd yn egluro honiadau bondigrybwyll, sarhaus a rhagfarnllyd Peter Hain ynglyn ag annibyniaeth. Coleddu Prydeindod, fel pe bai’n rhyw endid niwtral, yw’r ffasiwn ddiweddaraf ymysg gwleidyddion Llafur Newydd. Ond mae Prydeindod fel emblem, fel cyfundrefn ac fel cysyniad yn prysur edwino. Fel hynny y dylai pethau fod. Mae’r cysyniad o Brydeindod wedi ei seilio ar berthynas anghymesur ac anheg. Mae dadleuon Hain yn amlwg yn ddibynnol ar y syniad fod annibyniaeth yn gyfystyr â thorri ffwrdd, arwahanrwydd neu gulni gwleidyddol. Ond anwiredd yw hynny. Mae pob gwlad annibynol wedi ei phlethu mewn perthynas gyda chenhedloedd annibynol eraill boed hynny’n gymdeithasol, economaidd neu’n hanesyddol. O’r herwydd megir perthynas o gyd-ddibyniaeth ond honno’n gyd-ddibyniaeth wirfoddol.

Rhaid magu perthynas iach a chyfartal rhwng Cymru a gweddill y byd gan roi llais cryf i Gymru, fel cenhedloedd llai eraill, ar faterion rhyngwladol o bwys. Byddai annibyniaeth yn ein rhyddhau o hualau seicolegol canrifoedd o orthrwm gwleidyddol a fyddai’n ein galluogi i ryddhau ein potensial fel cymdeithas ac yn adfer ein synnwyr o hunan-barch.

Yn y cyfamser, i Blaid Cymru, mae etholiad hollbwysig ar y gorwel – rhan o’n neges ni fydd darbwyllo pobl Cymru mai diwedd taith gyfansoddiadol a hanesyddol yw annibyniaeth sy’n ddibynnol ar ewyllys y genedl. Yn y cyfamser, rhaid gofyn sut yn union y gellir cyfiawnhau ein dibyniaeth bresennol mewn oes ôl-drefedigaethol o ryddid? Pam fod yn rhaid i ni amddiffyn y ‘status quo’? Pam fod yn rhaid i ni hepgor ein hunan-barch?

Gwenllian Lansdown,
Ymgeisydd Plaid Cymru, Rhanbarth Canol De Cymru

1 comment:

Meic said...

F'es i i helpu mas gyda styff yn Nhŷ Gwynfor heddi - pob lwc yn yr etholiadau.