28.2.07

Dolenni Diddorol - Yr achos dros Annibyniaeth i'r Alban

Dyma ddolenni diddorol a gafodd eu postio gan Rhys ar faes-e:

Dadleuon da yma dros annibynniaeth i'r Alban, y rhan fwyaf yn berthnasol i Gymru hefyd.

A Case for Independence Part 1 (Yr economi)
A Case for Independence Part 2 (Lleoliad grym)
A Case for Independence Part 3 (Ymdeimlad + perthynas â Lloegr)

12.2.07

Rhaid magu perthynas iach a chyfartal rhwng Cymru a gweddill y byd - Gwenllian Lansdown

Datblygu o fod ym mer fy esgyrn ac yn rhan o’m greddf naturiol i fod yn egwyddor gwleidyddol a wnaeth fy ymrwymiad i annibyniaeth. Gyda’r newyddion fod traean o boblogaeth Cymru bellach yn cefnogi annibyniaeth, cynyddu fydd y momentwm ar gyfer trafodaeth gyhoeddus am rinweddau annibyniaeth a hynny, wrth reswm, yng nghyd-destun buddugoliaeth debygol yr SNP yn etholiadau Seneddol yr Alban ym mis Mai.

Mae’r tebygrwydd hynny hefyd yn egluro honiadau bondigrybwyll, sarhaus a rhagfarnllyd Peter Hain ynglyn ag annibyniaeth. Coleddu Prydeindod, fel pe bai’n rhyw endid niwtral, yw’r ffasiwn ddiweddaraf ymysg gwleidyddion Llafur Newydd. Ond mae Prydeindod fel emblem, fel cyfundrefn ac fel cysyniad yn prysur edwino. Fel hynny y dylai pethau fod. Mae’r cysyniad o Brydeindod wedi ei seilio ar berthynas anghymesur ac anheg. Mae dadleuon Hain yn amlwg yn ddibynnol ar y syniad fod annibyniaeth yn gyfystyr â thorri ffwrdd, arwahanrwydd neu gulni gwleidyddol. Ond anwiredd yw hynny. Mae pob gwlad annibynol wedi ei phlethu mewn perthynas gyda chenhedloedd annibynol eraill boed hynny’n gymdeithasol, economaidd neu’n hanesyddol. O’r herwydd megir perthynas o gyd-ddibyniaeth ond honno’n gyd-ddibyniaeth wirfoddol.

Rhaid magu perthynas iach a chyfartal rhwng Cymru a gweddill y byd gan roi llais cryf i Gymru, fel cenhedloedd llai eraill, ar faterion rhyngwladol o bwys. Byddai annibyniaeth yn ein rhyddhau o hualau seicolegol canrifoedd o orthrwm gwleidyddol a fyddai’n ein galluogi i ryddhau ein potensial fel cymdeithas ac yn adfer ein synnwyr o hunan-barch.

Yn y cyfamser, i Blaid Cymru, mae etholiad hollbwysig ar y gorwel – rhan o’n neges ni fydd darbwyllo pobl Cymru mai diwedd taith gyfansoddiadol a hanesyddol yw annibyniaeth sy’n ddibynnol ar ewyllys y genedl. Yn y cyfamser, rhaid gofyn sut yn union y gellir cyfiawnhau ein dibyniaeth bresennol mewn oes ôl-drefedigaethol o ryddid? Pam fod yn rhaid i ni amddiffyn y ‘status quo’? Pam fod yn rhaid i ni hepgor ein hunan-barch?

Gwenllian Lansdown,
Ymgeisydd Plaid Cymru, Rhanbarth Canol De Cymru

11.2.07

Adeiladu hyder ein pobol gam wrth gam - Dafydd Iwan

Gan mai ystyr ANNIBYNIAETH yn y cyd-destun hwn yw y byddai Cymru yn aelod llawn o'r Gymuned Ewropeaidd, ac yn aelod llawn o'r Cenhedloedd Unedig, rwy'n berffaith hapus mai dyna yw nod Plaid Cymru.

Pobol Cymru fydd yn penderfynu hynny yn y pen draw, drwy refferendwm, ac fel hynny y dylai fod. Yn y cyfamser, mae gennym ni yng Nghymru lawer o waith i'w wneud i gyrraedd hyd yn oed y fan lle mae'r Alban heddiw. Sefydlu Senedd gyflawn gyda phwerau deddfu cynradd yw'r nod pwysig nesaf i'w gyflawni. Does dim pwrpas camarwain pobol i feddwl fod "annibyniaeth" ar gynnig yn yr etholiad ym mis Mai. (Ac yn sicr does dim pwrpas inni ddadlau ymysg ein gilydd am ystyr geiriau!)

Ein gwaith ni ym Mhlaid Cymru yw adeiladu hyder ein pobol gam wrth gam, a sefydlu Senedd ddeddfwriaethol yw'r cam holl-bwysig ar y daith yr ydym wedi ei throedio ers 1925. Yr hyn sy'n rhoi gwir foddhad imi yw gweld agweddau pobol - a phleidiau - Cymru yn newid o flwyddyn i flwyddyn. A phan ddaw hi'n amser i gynnal refferendwm ar annibyniaeth, does gen i ddim amheuaeth o gwbwl na fydd pobol Cymru yn pleidleisio yn gadarnhaol o'i blaid.

O ran y gair ei hunan, mae gen i'r un teimladau cymysg a fynegwyd gan Gwynfor Evans. Mewn gwirionedd, does yna'r un wlad annibynnol yn y byd. Yr ydym oll yn gyd-ddibynnol, ac mewn partneriaethau o wahanol fathau. Y peth sylfaenol bwysig yw ein bod yn rhydd i benderfynu ar ba delerau yr awn i bartneriaeth gyda gwledydd eraill. Ac i wneud hynny, rhaid bod, a defnyddio'r term technegol, yn "annibynnol". Ond i bwrpas fy nghaneuon, byddaf fi'n dal i ddefnyddio'r gair yr wyf wedi ei ddefnyddio erioed, sef "RHYDDID"!

Rhagom i'r Gymru Rydd!

Dafydd Iwan

Llywydd Plaid Cymru

9.2.07

Annibyniaeth oddi fewn i'r Undeb Ewropeaidd

Heddiw mae Ieuan Wyn Jones AC, arweinydd Plaid Cymru ac arweinydd yr wrthblaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn esbonio pam mai annibyniaeth oddi fewn i'r Undeb Ewropeaidd yw nôd cyfansoddiadol tymor hir Plaid Cymru.

Rwy'n croesawu'n gynnes y cyfle hwn i gymryd rhan yn y drafodaeth ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Mae anghenion Cymru fel cenedl yn cael eu trafod fel nas gwelwyd erioed o'r blaen wrth i baratoadau at yr Etholiad Cyffredinol Cymreig ym mis Mai fynd yn ei blaen. Mae datganoli, hyd yn oed yn ei ffurf bresennol, yn sicrhau cyfle i drafod blaenoriaethau Cymru mewn cyd-destun Cymreig, ond mae'r pwerau yn annigonol, ac arweiniad Rhodri Morgan a'i weinyddiaeth Lafur yn ofidus.

Fel plaid sydd o'r farn fod Cymru fel cenedl angen pob pŵer posib i ffynnu, annibyniaeth oddi fewn i'r Undeb Ewropeaidd yw ein nod cyfansoddiadol tymor hir. Yn ogystal a gwella bywydau pobl Cymru, mae'n iawn i Gymru ymuno â'r gymuned fyd-eang o genhedloedd.

Gam wrth gam fu ein hagwedd erioed tuag at newid cyfansoddiadol, a gan mae'r bobl sy'n sofran, bydd refferendwm ar bob newid sylweddol. Gan bobl Cymru mae'r dweud olaf ar y mater.

Ein bwriad dros y bedair blynedd nesaf yw sicrhau refferendwm ar Senedd go iawn, fel bod ganddom yr hawl i ddeddfu ac amrywio trethi heb orfod gofyn caniatâd San Steffan. Heriwn y pleidiau gwleidyddol eraill i ymuno yn yr ymgyrch.

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol eleni, bydd pleidiau Llundain yn chwarae gem wleidyddol gydag annibyniaeth ac yn ceisio rhannu'r mudiad cenedlaethol. Mae ein nod yn glir, ond bydd ein gwrthwynebwyr yn ceisio ei ddefnyddio yn ein herbyn. Mae'r etholiad hwn yn gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth go iawn a chynorthwyo i drawsnewid Cymru.

Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd â hyder yng Nghymru a phobl Cymru. Mae pleidiau Llundain yn honni fod Cymru yn rhy fach ac anarwyddocaol i gael dylanwad ar y llwyfan rhyngwladol. Mae dilorni Cymru yn y fath fodd yn nawddoglyd a sarhaus. Rhaid magu hyder ein cenedl a chynnig newid er gwell i bobl Cymru. Gyda'n gilydd gallwn gyrraedd y nod.

Mae Ieuan Wyn Jones yn Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, yn arweinydd Plaid Cymru ac yn arweinydd yr wrthblaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Pa fath o annibyniaeth?

Mae'r blog yma wedi llwyddo i godi proffil y ddadl dros annibyniaeth mewn ffordd gwbwl hyderus a chredadwy. Mae angen croesawu hynny. Mae o hefyd wedi gorfodi Plaid Cymru, yr unig blaid sy'n arddel annibyniaeth, i fod yn fwy eglur ynglyn â'i amcanion - a da o beth.

Mae'r pleidiau pro-annibyniaeth yn Yr Alban - yr SNP, yr SSP a'r Gwyrddion - wedi llwyddo i roi annibyniaeth ar ben yr agenda wleidyddol yna ar gyfer yr etholiad nesaf. Mae na resymau amlwg pam bod hynny'n bosib. Dylwn ni yma yng Nghymru anelu i wneud yr un peth ymhen pedair blynedd. Yr unig ffordd i godi stem ar y mater ydi ymgyrchu all-seneddol yn ogystal â gwthio'r gwleidyddion i wneud safiad.

Ond yr hyn dwi am godi yma rwan ydi "pa fath o annibyniaeth?"

Efallai fod hwnna'n "neidio'r gwn" braidd ond os ydan ni am greu cefnogaeth ymhlith poblogaeth Cymru, rhaid iddyn nhw ddallt mai nid fersiwn ychydig yn well o'r hyn sydd ganddon ni fydd gweriniaeth rydd.

Rhaid iddyn ddallt, i ddefnyddio cymhariaeth James Connolly, mai nid mater o godi'r Ddraig Goch a phaentio'r bocsys post yn wyrdd ydio. Mae'n rhaid i Gymru rydd adlewyrchu'r hyn mae pobl Cymru am ei weld - cydweithredu nid y farchnad rydd, gofal nid rhyfel a rhoi'r bobl cyn y bunt.

Rydwi am weld gweriniaeth sosialaidd lle mae cyfoeth Cymru yn nwylo'r werin bobl, lle mae democratiaeth yn golygu mwy na croes bob pedair mlynedd i bleidiau sy'n dweud yr un peth a lle mae'r amgylchedd yn cael ei pharchu a'i chynnal yn lle'i rheibio gan gyfalafiaeth. Yn yr un ffordd ac y mae genna'i ffydd yng ngallu pobl Cymru i redeg eu gwlad eu hunain, mae genna'i ffydd yng ngallu gweithwyr Cymru i redeg ein diwydiant a'n gwasanaethau.

8.2.07

Rhyddid cenedlaethol sy'n ysbrydoli pobl

Dyma ddarn rhagorol gan Dr. Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru:

Rwy’n credu’n gryf ein bod a’r gallu i daclo’n problemau ein hunain yma yng Nghymru – nid oes rheswm biolegol na naturiol pam fod yn rhaid i ni fod yn ddibynnol am byth ar Loegr i wneud penderfyniadau drosom.

Mae pobloedd Slofenia, Malta neu Vanuatu, ynghyd ag amryfal wledydd annibynnol eraill sy’n llai na Chymru, yn rhannu yr un gred. Wedi’r cyfan, senedd go iawn, rymus a all ddeddfu a threthu yw’r model o lywodraeth effeithiol ym mhedwar ban byd – prin yw’r ymgyrchoedd hynny ar lawr gwlad sy’n mynnu cael bod yn gaeth i Gynulliad ddi-rym.

Rhyddid cenedlaethol sy’n ysbrydoli pobl – yng Nghymru, dim ond Plaid Cymru sy’n credu mai cenedl yw Cymru. Cysyniad arwynebol, sentimental o Gymru sy’n bodloni eraill. Taeogion sy’n mynnu darymostwng i bwerau allanol (honedig uwchraddol) a fu’n gyfrifol am ddifetha ein gwlad dros y canrifoedd. Mae eraill yn fodlon rhoi uchelgais bersonol a chul o flaen dyhead cenedl gyfan.

Mae ‘na rai, tu allan i’r Blaid, sy’n fodlon gweld Cymru fel rhanbarth neu uned, er fod Cymru’n parhau i fod ar waelod pob tabl lle mae dangosyddion iechyd a’r economi yn y cwestiwn. Siawns ein bod wedi aros yn ddigon hir i weld pa mor ffynianus yr ydym yng nghol undeb anghyfartal ac anheg Prydain Fawr?

Mae llanw amser o blaid Senedd i Gymru ac mae’r llanw’n prysur lifo i gyfeiriad Plaid Cymru. Dim ond senedd gyda phwerau deddfu a threthu fydd yn gallu trawsnewid ein heconomi, datblygu ein gwasanaethau iechyd ac addysg, bod yn gyfrifol am ein hadnoddau naturiol fel dwr, ac amddiffyn pobl Cymru rhag Lywodraeth o blaid ynni niwclear yn Llundain.

Dyna pam rwyf i’n ymgyrchu o ddydd i ddydd ar ran Plaid Cymru. Cymru rydd fydd fy Nghymru i.

Dr Dai Lloyd AC Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru

7.2.07

Sylw i'r Blog yn Golwg

Bu sylw i'r blog annibyniaeth yn Golwg yr wythnos diwethaf. Danfonais lythr at Golwg yn ymateb i'r erthygl, ac fe gafodd ei argraffu yn Golwg yr wythnos 'ma. Dyma gopi ohono:

Annwyl Golwg,

Rwy'n ddiolchgar i Golwg ac i'ch gohebydd am roi cyhoeddusrwydd i'r wefan newydd annibyniaeth.blogspot.com . Gobeithio y gwnaiff llu o genedlaetholwyr ymweld a chyfrannu at y drafodaeth werthfawr.

Carem, serch hynny, gywiro un camgymeriad gan eich gohebydd. Fel y gŵyr pawb, roedd Gwynfor Evans yn ymladdwr di-flino dros Gymru, ond y term a ddewisiai ef i ddisgrifio'r ymdrech oedd "brwydr dros ryddid cenedlaethol".

Rwy'n ymwybodol iawn ei fod ef wedi penderfynu osgoi y term 'annibyniaeth' ar bob achlysur, a dadleuai ei bod yn amhosibl i unrhyw wlad fod yn gwbwl annibynnol yn y byd modern. Meddai yn 'Bywyd Cymro':

"I mi y mae annibyniaeth yn air anystwyth a braidd yn beryglus... Metha'r gair ag awgrymu cyd-ddibyniaeth y gwledydd".

Ond erbyn hyn, mae gelynion cenedlaetholdeb yn gwneud cymaint o 'issue' o duedd y Blaid i osgoi y gair 'annibyniaeth', ac mae ymateb gor-amddiffynol rhai yn y blaid yn fêl ar eu bysedd.

Dangosodd pôl piniwn diweddar y BBC fod 20% o bobl Cymru o blaid annibyniaeth. Mae hyn er gwaetha'r ffaith nad oes unrhyw blaid yng Nghymru heddiw yn dadlau'r achos yn gryf dros annibyniaeth i Gymru, ac er gwaetha'r ffaith nad oes gan Gymru wasg gynhenid Gymreig, fel sydd yn yr Alban, a'n bod yn cael ein boddi dan don o Brydeindod gan y wasg unoliaethol yn ddyddiol.

Er hyn oll, mae 1 o bob 5 person yng Nghymru yn cefnogi annibyniaeth. Mae cyfle gwirioneddol i chwyddo'r gefnogaeth yma, os gallwn ni wneud yr achos yn gryf dros annibyniaeth i Gymru, a rhoi y pwnc ar yr agenda gwleidyddol.

Mae llwyddiant yr SNP yn cael dylanwad mawr hefyd, ac maent hwy yn arddel y gair yn falch ac heb rithyn o agwedd hunan-amddiffynol rhai pleidwyr.

Yn gywir,

Hedd Gwynfor
Pontyberem

2.2.07

Cefnogwch y blog

Cofiwch, ni fydd y blog yma'n llwyddiannus yn y nôd o hyrwyddo'r achos dros annibyniaeth ar y we, os na fydd digon o ymwelwyr. Beth am helpu trwy osod un o'r lluniau yma ar eich gwefan, gyda dolen at:

http://annibyniaeth.blogspot.com/