18.1.07

Rhoi y pwnc ar yr agenda wleidyddol!

Dechreuwyd y blog yma mewn ymateb i bôl piniwn y BBC a ddangosodd fod 20% o bobl Cymru o blaid annibyniaeth. Mae hyn er gwaetha'r ffaith nad oes unrhyw blaid yng Nghymru heddiw yn dadlau'r achos yn gryf dros annibyniaeth i Gymru, ac er gwaetha'r ffaith nad oes gan Gymru wasg gynhenid Gymreig, fel sydd yn yr Alban, a'n bod yn cael ein boddi dan don o Brydeindod gan y wasg unoliaethol yn ddyddiol.

Er hyn oll, mae 1 o bob 5 person yng Nghymru yn cefnogi annibyniaeth. Mae cyfle gwirioneddol i chwyddo'r gefnogaeth yma, os gallwn ni wneud yr achos yn gryf dros annibyniaeth i Gymru, a rhoi y pwnc ar yr agenda gwleidyddol.

Pwysleisiwyd y ffaith nad oes unrhyw ymgais wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gyflwyno'r achos i bobl Cymru yng nghanlyniadau chwiliad syml yn Google. Pan fydd rhywun yn chwilio am Cymru Annibynol , dim ond 13 canlyniad sydd. Y mwyafrif helaeth yn ymwneud a’r ‘Independent Wales Party, sydd erbyn hyn wedi marw, a cwpwl yn dangos ambell i drafodaeth difyr ar faes-e. Dyma gyfanswm y drafodaeth sy’n bodoli yn y Gymraeg ar y we-fyd-eang ar y mater.

A dyma gychwyn felly ar ehangu’r drafodaeth...

1 comment:

Meic said...

Pob hwyl i chi'n oll. Rhaid ini'n oll gofio y fath brobleme mae parliament wedi achosi i'n economi (Y thatcher) ac nid ydynt bellach yn helpu ein amgylchfydau trwy gadael i ddirywiad busnesol dwgi 'i hunain yn ein trefi a'n froydd.