15.2.12

Gwireddu ein gweledigaeth am wlad annibynnol a llwyddiannus, Elin Jones

Credaf fod angen i Blaid Cymru, o dan yr arweinydd nesaf, rhoi’r flaenoriaeth i ddatgelu gweledigaeth atyniadol i bobl Cymru, gan gynnwys manylion ynghylch sut y byddwn yn gweithio tuag at ennill annibyniaeth i’r wlad.

Os ydym am wireddu ein gweledigaeth am wlad annibynnol a llwyddiannus, rhaid i ni gytuno’n derfynnol ar y manylion fel y gallwn yna fwrw ati i esbonio manteision dyfodol annibynnol i bobl Cymru. Dyma pam rwyf wedi cynnwys bwriad i gynnal cynhadledd arbennig i’r Blaid yn 2013 ar annibyniaeth – y cyntaf yn ein hanes – fel un o’m prif addewidion yn yr etholiad arweinyddol. Gallwn yna gyflwyno’r achos dros Annibyniaeth i Gymru.

Rwyf hefyd yn cynnigy byddai i’r Blaid ennill dau etholiad o’r bron yn fandad i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.

Dyma fy ngweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru – y weledigaeth gliriaf erioed i gael ei chyflwyno gan arweinydd Plaid Cymru dros sefydlu gwladwriaeth Gymreig annibynol. Fodd bynnag, rhaid ennill cefnogaeth o bob rhan o Gymru, ac ar draws y ffiniau gwleidyddol, er mwyn medru gwireddu hyn.

Mae siarad am annibyniaeth yn syml, ond ni fydd hi’n hawdd sicrhau y bydd hi’n dod yn realiti. Yn bendant, dyw ei gwireddu ddim yn dod yn agosach am fod ambell aelod o Blaid Cymru yn yngan y gair yn amlach. Na chwaith y bydd yn cael ei gwireddu am fod yr Alban yn cynnal refferendwm ar eu hannibyniaeth hwythau yn 2014. Fe fyddwn i gyd wrth gwrs yn cael ein hysbrydoli gan refferendwm yr Alban, ond rhaid i ni beidio twyllo ein hunain i gredu fod yr un trywydd yn dilyn yn awtomatig i ni.

Fodd bynnag, mae’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban yn rhoi’r cyfle i ni fel plaid i ddechrau dadlau achos Cymru ymhellach, wrth i ni edrych at ba fath o berthynas fydd rhwng cenhedloedd y DU yn y dyfodol. Rhaid i ni felly fod yn gliriach am ein huchelgais i Gymru, ac am ein hamcan cyfansoddiadol i Gymru wrth i ni gynnal y trafodaethau hyn.

Dros y blynyddoedd nesaf, yr her i Blaid Cymru yw gweithio fel un er mwyn sicrhau annibyniaeth i Gymru. Mae’n hollbwysig ein bod yn cadw ein ffocws ar y nod hwn a gwrthod gadael i frwydrau mewn meysydd eraill amherthnasol i hawlio ein sylw. Annibyniaeth yw ein blaenoriaeth.

Mae uchelgais gwleidyddol Plaid Cymru yn radical, ond rhaid sicrhau ei bod yn berthnasol i fywydau bob dydd pobl Cymru. Wrth gwrs, pobl Cymru fydd bob tro’n penderfynu ar ddyfodol y wlad hon – dyna’r brif egwyddor i Blaid Cymru. Allwn ni felly ddim rhamanteiddio’n ddi-ddiwedd am fendithion anibyniaeth tra eu bod hwythau’n poeni ynghylch talu’r biliau neu gadw eu swyddi. Law yn llaw â diffinio ein hamserlen ar gyfer annibyniaeth mae gosod gweledigaeth glir i adeiladu economi gryf i Gymru, a chychwyn ar ein Hail Chwyldro Diwydiannol, unwaith eto wedi ei seilio ar ein adnoddau naturiol, ond y tro hwn gyda’r elw yn llifo i fusnesau a chymunedau Cymru.

Mae pobl Cymru yr un mor abl â chenhedloedd eraill i bennu ar eu dyfodol eu hunain. Rwyf felly am sicrhau eu bod yn cael y cyfle i wneud hynny, a mynd â Chymru ymlaen i fod yn wlad annibynnol, lwyddiannus.

Elin Jones, Chwefror 2012

Gwefan: www.elindrosgymru.com
Ebost: Elin.Jones@Cymru.gov.uk
Trydar: @ElinJonesPlaid
Facebook: facebook.com/elinjonesplaid

10.2.12

Nid drwy floeddio am 'Annibyniaeth' mae byw yn annibynnol fel Cymry, Dafydd Elis-Thomas

Mae codi cwestiwn refferendwm arfaethedig Prif Weinidog yr Alban ‘A ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?’ wedi newid gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig (DU) am byth. Mantais gofyn y cwestiwn yw ei fod wedi rhoi cyfle i gabinet galluog fy nghyfaill Alex Salmond allu diffinio ei ystyr; fel gyda’r ail gwestiwn posib am ddatganoli cyflawnach sy’n gyfystyr â chydraddoldeb ffederal yn ynysoedd Prydain a thua hanner Gogledd Iwerddon (fel y byddai Gwyn Alf Williams yn disgrifio’r lle!)

Rhaid i ni weld beth fu’r ymateb yng Nghymru, heb geisio osgoi ystadegau’r pôl piniwn diweddara gan ITV Cymru/YouGov. Pan ofynnwyd i sampl o fil ‘sut y dylai Cymru gael ei llywodraethu yn y DU heb yr Alban?’ fe atebodd 32% y dylai Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol gael mwy o rymoedd. 10% oedd am weld Cymru ‘annibynnol o’r Deyrnas Unedig’. Roedd 40% o gefnogwyr y Ceidwadwyr am fanteisio ar symudiad yr Alban i ddileu datganoli yn llwyr drwy gael gwared a’r Cynulliad. Dyna rybudd clir i ormod sy’n fodlon cydweithio fel rhyw gyd-wrthblaid â nhw yn y cynulliad presennol, heb sôn am mewn llywodraeth!

Yr ystadegyn pwysicaf yn ôl rhai cyfryngau yw mai dim ond traean (33%) sef lleiafrif o bleidleiswyr Plaid Cymru oedd am weld Cymru ‘annibynnol’ yn dilyn newid yn yr Alban. Doedd dim yn newydd yn y ffigwr hwn. Mae'n tua'r un peth ag ystadegau astudiaethau sylweddol yr Athrawon Roger Scully a Richard Wyn Jones o farn wleidyddol yng Nghymru ar 'ddatganoli' gan gynnwys y rhai a gomisiynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2008 cyn y refferendwm. Rhaid rhagdybio felly mai dyma farn ystyriol mwyafrif pleidleiswyr Plaid Cymru. Wrth ystyried yn ddeallus sut y gellir symud y farn gyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys pleidleiswyr y Blaid, tuag at farn gyhoeddus yr Alban, bydd yn rhaid i arweinydd nesaf Plaid Cymru gydnabod maint yr her, a bod yn onest ynglŷn â hynny gydag aelodau.

Fel un a fwriodd flynyddoedd o brentisiaeth yn datblygu’r ddealltwriaeth o gyfansoddiad Cymru rwy’n awchu am y cyfle hwn i sicrhau mwy o rym i Gymru a’i phobl. Rydw i’n hyderus fod hyn yn bosib dim ond i’r arweiniad a gynigir fod yn un sy’n onest, yn ddeallus, yn barod i wrando ar bobl, ac yn etholadwy. Yn 1999 pan etholwyd fi gan fy nghyd-aelodau yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol fe welais yn syth bin nad oedd y corff yn gynaliadwy fel yr oedd, yn gymysg o gynulliad a llywodraeth ac un corff o swyddogion yn weision suful yn rhedeg y ddau. Roedd y pwerau deddfu yn llai na Gweinidog gwladol yn yr Hen Swyddfa Gymreig. Aethom ati i ddangos i bobol Cymru ddydd ar ôl dydd nad oedd hyn yn ddigon da.

CHWARAE’R GÊM YN DDEALLUS

Wrth edrych yn ôl heddiw mae’n bwysig sylweddoli cymaint sydd eisoes wedi ei ennill. Ac fe ddaeth y fuddugoliaeth fwyaf mewn refferendwm pan oedd Arweinydd Plaid Cymru yn Ddirprwy Brif Weinidog gydag Arweinydd Llafur Cymru yn Llywodraeth Cymru’n Un. Wrth i’r datblygiadau yn yr Alban beri holi anneallus ar sgriniau ac yn stafelloedd te'r DU bydd y blynyddoedd nesaf yn cynnig y cyfle gorau yn hanes Cymru i ennill mwy eto o ymreolaeth ymarferol hyd at annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) os dymunwn hynny o ddifri. Nid wrth weiddi ‘annibyniaeth’ ar y llinell ystlys y daw hynny, ond wrth chwarae’r gêm yn ddeallus ar draws y maes. Mae’n rhaid inni sicrhau ein bod ni’n manteisio ar bob cyfle i wneud hynny. A dw i’n credu y byddai’r ddealltwriaeth drwyadl o faterion cyfansoddiadol y deyrnas yma yr ydw i wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf o fantais aruthrol imi fel arweinydd y Blaid.

Y peth pwysicaf yr ydw i wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd yw mai drwy ymestyn allan am gefnogaeth newydd a chwilio am dir cyffredin y mae cael y maen i’r wal. Nid trwy ailadrodd ystrydebau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar blesio’ch cefnogwyr craidd - er cymaint y demtasiwn i wneud hynny mewn unrhyw etholiad mewnol. Dwi felly’n benderfynol o weld dyfodol cyfansoddiadol Cymru’n cael y sylw dyladwy dros y blynyddoedd nesaf. A’r un mor benderfynol o godi safon y drafodaeth gyhoeddus ar y pwnc. Fel rydw i eisoes wedi dweud ar lawr y Senedd, rydw i’n croesawu galwad y Prif Weinidog Carwyn Jones am ‘Gonfensiwn’, neu Uwch-gynhadledd efallai, ar y berthynas rhwng gwledydd y DU a’i gilydd, yn lle rhagor o bwyllgorau enwebedig yn adrodd yn unig i Lywodraeth y DU.

Gêm ddifyr i mi ar ymweliadau achlysurol a chwestiynau ar ddydd Llun yn San Steffan yw gwylio ymateb y sefydliad Seneddol yn y DU i’r datblygiadau yn yr Alban. Mae’n rhyfeddol mor gyfyng ydi eu dealltwriaeth o faterion cyfansoddiadol eu gwladwriaeth eu hunain. Un o’r enghreifftiau doniolaf o hyn oedd y Canghellor George Osborne yn awgrymu y byddai angen i’r Alban pe byddai yn wlad annibynnol gael ‘caniatâd’ y Trysorlys yn Llundain i gael defnyddio’r bunt. Digon tebyg i ddadl Peter Hain AS y byddai’n rhaid i’r Alban ail-negodi ei haelodaeth bresennol a’r Undeb Ewropeaidd (UE) fel pe bai yn ymuno o’r newydd! Fe fuon rhaid iddyn nhw dynnu eu geiriau’n ôl yn bur fuan yn hyn o beth wrth gwrs! Wrth geisio cyflwyno annibyniaeth fel dewis simplistig, haearnaidd a di-droi’n-ôl, y cyfan mae’r sefydliad unoliaethol yn y DU yn ei ddangos yw eu diffyg gweledigaeth a’u diffyg dealltwriaeth o faterion cydwladol!

Pe bawn i’n gweithio yn yr Alban rŵan fel y bum ddechrau’r nawdegau yng Nghanolfan Moeseg, Athroniaeth a Materion Cyhoeddus Prifysgol St Andrews, prin fod angen dweud y byddwn i gant y cant y tu ôl i Alex Salmond a Nicola Sturgeon a’r gweddill o Gabinet yr SNP yn eu hymgais i ennill hynny ag sy’n bosibl o rym i bobl yr Alban. Mae’n gwbl amlwg hefyd fod eu dealltwriaeth nhw o gyfansoddiad y DU yn rhagori’n sylweddol ar y sefydliad Prydeinig y DU tua Llundain! Ond wrth orfod esbonio’r hyn a olygir yn hollol wrth y gosodiad sy’n cael ei gynnig fel y cwestiwn ar y papur pleidleisio sef ‘y dylai’r Alban fod yn wlad annibynnol’, mi fydd yn rhaid i’w cefnogwyr hwythau ddechrau diffinio union natur y wladwriaeth yr hoffen nhw ei gweld yn yr Alban.

Os ydyn nhw’n cadw’r bunt - fel mae’n ddigon rhesymol a phragmataidd iddyn nhw ei wneud wrth gwrs - mae’n golygu mai Banc Lloegr fyddai’n gosod cyfraddau llog, grym cwbl allweddol wrth reoli unrhyw economi. Pe bai’r Alban yn awyddus i gael rhywfaint o lais ym mhenderfyniadau Banc Lloegr, mi fyddai hynny’n golygu cydymffurfio â rheolau caeth ar fenthyciadau cyllidol. Tasg yr un mor ofalus i Gabinet yr SNP fydd diffinio union ystyr y gair newydd sydd wedi dod i’n geirfa - ‘devo max’. Mae’n derm sy’n hyblyg yn ei hanfod, ond mi fyddwn i’n credu mai’r diffiniad symlaf fyddai ennill hynny ag sy’n bosibl o rym i’r Alban a’i phobl. Fe wn i’n iawn fod Alex Salmond a’i gynghorwyr yn gweithio’r un mor galed o dan yr wyneb i glymu aelodau meddylgar pleidiau eraill wrth y dewis hwn yn ogystal â chyhoeddi rhinweddau bod yn wlad annibynnol.

NID YR ALBAN YW CYMRU!

Mae unrhyw astudiwr arwynebol yn mynd i sylwi yn syth ar y gwahaniaeth rhwng hanes, diwylliant a bywyd cenedlaethol yr hyn a alwn braidd yn gamarweiniol weithiau yn ‘wledydd Celtaidd’! Pe bai yn dacteg gan rai yng ngwleidyddiaeth yr Alban, a dydwi ddim yn honni o reidrwydd ei fod, i ddadlau dros fod yn wlad annibynnol er mwyn sicrhau rhyw ffurf neu’i gilydd o ‘devo max’ dydi o ddim yn dilyn o gwbl y byddai strategaeth o’r fath yn gweithio yng Nghymru. Fel y gwelsom mae’r gefnogaeth yng Nghymru i’r hyn a elwir yn annibyniaeth yn llai na thraean yr hyn ydi o yn yr Alban. Bychanu’n hunain fyddai gweld hyn fel rhyw destun cywilydd a gwarth cenedlaethol. Llawer iawn mwy adeiladol fyddai inni feithrin dealltwriaeth o’r rhesymau hanesyddol ac economaidd drosto. I nodi un peth amlwg, mae gorddibyniaeth economi Cymru ar y sector cyhoeddus yn un ffactor cwbl allweddol.

Mae’n sicr y byddai yna garfan fechan o blith Plaid Cymru yn cael rhyw fath o gysur ysbrydol o glywed yr un ystrydebau cenedlaetholgar yn cael eu pregethu’n barhaus. Mab i bregethwr gyda’r Presbyteriaid ydw innau, er mod i bellach yn Eglwyswr, ond pwyslais ar weithredoedd, glywais i o bulpudau ar hyd fy oes. Dyna pam mod i’n croesawu’r rhybudd yn yr adroddiad Camu ‘Mlaen y “dylai'r Blaid fod yn ofalus rhag ymddangos fel pe na bai'n ymddiddori mewn dim ond materion cyfansoddiadol”. Rhaid deall hefyd y byddai oblygiadau pur sylfaenol i osod annibyniaeth fel prif bwnc ein holl weithgaredd gwleidyddol. A fyddai’r Blaid felly’n rhoi’r gorau i unrhyw ymdrechion i ddadlau dros ffordd decach na fformiwla Barnett o ddyrannu adnoddau’r wladwriaeth i Gymru? Neu i sefydlu datblygiad cynaliadwy yn ganolog yng ngwaith Llywodraeth Cymru a bywyd y wlad, y cyfandir a’r byd.

Mi fyddwn i’n dadlau’n daer mai’r flaenoriaeth felly yw sicrhau cefnogaeth y farn gyhoeddus yng Nghymru i gryfhau’n sefydliadau gwleidyddol er mwyn gwarchod a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru, ac felly ddatblygu bywyd cynaliadwy ein rhan ni o’r byd. Credaf fod Camu 'Mlaen wedi taro’r hoelen ar ei phen wrth ddweud bod “angen i Blaid Cymru fapio'n fanylach y camau cyfansoddiadol sydd yn eu barn hwy yn ddymunol.” Cytunaf hefyd â’r camau a awgrymir i anelu atynt sef sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol benodol Gymreig, gan gynnwys datganoli’r pwerau dros blismona a throsglwyddo pwerau dros feysydd megis benthyca, threthu, darlledu ac ynni gan weithredu holl argymhelliad Comisiwn Richard a adroddodd i Lywodraeth Cymru i symud o fodel ‘pwerau a ddatganolwyd’ i fodel ‘pwerau a gadwyd’ yn unol â’r model Albanaidd ac argymhellion Comisiwn Richard.

Byddwn yn ychwanegu’r angen i ddileu swydd ‘led-drefedigaethol’ Yr Ysgrifennydd Gwladol, a chefnogi datganoli i Senedd Lloegr, gan symud tuag at gydraddoldeb yn y DU rhwng y gwledydd. Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu gosod graddau’r gefnogaeth i amcanion o’r fath, yn ogystal â chefnogaeth i’r Blaid, fel meini prawf i fesur llwyddiant. Cytunaf yn llwyr â hyn, ond byddwn yn mynd un cam ymhellach - y maen prawf pwysicaf un ddylai fod y graddau yr ydym yn llwyddo i gyflawni’r amcanion yma.

MEWN UNDOD EWROPEAIDD YN UNIG MAE ANNIBYNIAETH YN BOSIB

Datblygiad cynaliadwy yw’r annibyniaeth newydd ar gyfer yr 21 ganrif gan ei fod y ein tynnu mas o bob dibyniaeth amgylcheddol ac economaidd i gyd-ddibyniaeth. Dyna oedd neges ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’. Dyna pam rydw i’n benderfynol hefyd o weld y Blaid yn meithrin gweledigaeth fwy eangfrydig yn ei hagwedd at Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd (UE). Rhaid rhoi mwy o sylw i’r datblygiadau ar dir mawr Ewrop nag a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf. Mae sôn am unrhyw amcanion hirdymor yn ddiystyr oni bai eu bod nhw wedi cael eu gosod mewn cyd-destun ehangach. Ofer fyddai unrhyw ystrydebu ynghylch ‘annibyniaeth’ oni bai ein bod ni’n diffinio’n union y math o bwerau y dylai Cymru eu cael. Mae angen gweledigaeth glir o safbwynt pa benderfyniadau a ddylai gael eu cymryd gan wladwriaethau unigol a pa rhai ar lefel yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn ysgrif feistrolgar, ‘Lloegr, Ewrop a Chymru’, roedd Saunders Lewis yn dadlau mai “dwyn undod politicaidd ac economaidd i Ewrop yw un o anghenion cyntaf ein canrif ni”. Bron i ganrif yn ddiweddarach, mi allwn ni ymfalchïo wrth weld cymaint o flaen eu hoes oedd sylfaenwyr ein plaid. Mae geiriau fel hyn, a phwyslais yr arweinwyr cynnar ar gyd-ddibyniaeth cenhedloedd, yn cynnig gwrthgyferbyniad goleuedig i werthoedd David Cameron a’r Unoliaethwyr Gwrth-ewropeaidd yn y Blaid Dorïaidd a’r wasg ynysig efo’u syniad UKIP-aidd o sofraniaeth. Mi ddylen ni fel plaid fod ar flaen y gad wrth ddirmygu cenedlaetholdeb gwladwriaethol cul fel hyn, gan osgoi’r demtasiwn o ddefnyddio’r un math o ieithwedd ein hunain. Os ydan ni o ddifri ynghylch gweld diflaniad y DU fel hen wladwriaeth ôl-drefedigaethol gyda’r gweddill ohonynt allan o fywyd Ewrop yna mae synnwyr cyffredin yn dweud cymaint mwy anodd fydd gwneud hynny os byddwn yn ymbelláu oddi wrth y broses o undod gwleidyddol sy’n digwydd ar dir mawr Ewrop. Mae’n holl bwysig ein bod ni’n sylweddoli cyfyngiadau cenedl wladwriaethau fel ffurfiau addas o lywodraeth a chefnu ar ryw syniadau ugeinfed ganrif fel sofraniaeth.

Dw i’n benderfynol o weld y Blaid yn codi i’r her o addasu i anghenion oes newydd, gan aros yn driw i rai o’r gwerthoedd pwysicaf sy’n perthyn inni fel plaid hanesyddol. Os caf fy ethol, dydw i ddim yn addo pregethu’r hyn y bydd ar aelodau’r Blaid eisiau ei glywed bob amser. Rwy’n ymrwymo i roi fy holl brofiad ar waith i ymestyn allan at gefnogaeth newydd er mwyn sicrhau hynny ag sy’n bosib o rym yn yr amser presennol, nid mewn rhyw ddyfodol dychmygol dros y gorwel draw, i Gymru a’i phobl.

Dafydd Elis-Thomas, Chwefror 2012

Gwefan: www.dafyddelisthomas.org
Ebost: Dafydd.elis-Thomas@cymru.gov.uk
Trydar: @ElisThomasD
Facebook: facebook.com/profile.php?id=100000681303381

8.2.12

Cyfeiriad Gwleidyddol Newydd: Annibyniaeth, gan leanne Wood

"Mae annibyniaeth gwirioneddol yn gyfnod o greu newydd a gweithredol: pobl yn ddigon sicr o’u hunain i daflu eu beichiau; gwybod bod y gorffennol yn perthyn i’r gorffennol, fel llunio hanes, ond gyda synnwyr hyderus newydd o’r presennol a’r dyfodol, lle y bydd yr ystyron a’r gwerthoedd tyngedfennol yn cael eu ffurfio."

Raymond Williams, 1975


Mewn cyfnod o dair blynedd yn unig y mae’r cyd-destun gwleidyddol yng Nghymru a’r byd wedi newid yn rhyfeddol. Dylai’r argyfwng bancio yn 2008 fod wedi tanseilio ac esgor ar wrthod cyfalafiaeth a nifer o’i dybiaethau economaidd a gwleidyddol sylfaenol. Mae rhaglenni llymder a lefelau uchel o ddiweithdra yn rhoi pwysau mawr ar bobl, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd wrth i effeithiau prisiau ynni a newid hinsawdd godi ofn. Mae pob gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd yn wynebu ansicrwydd economaidd a nifer ohonynt, bach a mawr, mewn argyfwng economaidd difrifol. Mae dyfodol yr holl brosiect Undeb Ewropeaidd bellach mewn perygl. Os yw platiau tectonig cyfalafiaeth yn dangos arwyddion o fod dan bwysau, yna yn nes adref creodd yr etholiadau diweddar yn yr Alban gynnwrf yn y wladwriaeth Brydeinig. Mae’r ôl gryniadau yn dilyn digwyddiadau ym mharthau Ewrop ac ymateb Prydain yn debygol o gael eu teimlo am gryn amser i ddod. Mae cwestiynau ynglŷn â gallu Cymru i greu deddfau o fewn amrediad cyfyngedig o feysydd polisi datganoledig wedi’u hateb yn bendant gan y refferendwm fis Mawrth y llynedd. Mae’r camau nesaf i Gymru, a wrthododd y rhaglen o doriadau’r Ceidwadwyr/Democratiaid Rhyddfrydol sydd bellach yn effeithio yn anghymesur arnom, eto i’w penderfynu.

Wrth i Blaid Cymru gynnal adolygiad mewnol a dechrau ar y broses o ethol arweinydd newydd i lywio’r blaid i gyfnod newydd, mae hwn yn gyfle da i ystyried sut yr ydym yn ymateb i’r cyd-destunau newydd hyn. Sut gallwn ni sicrhau bod y gwerthoedd a’r athroniaeth sydd yn waelodol i farn gwleidyddol Plaid Cymru yn cyfrannu at adeiladu Cymru sydd yn economaidd ddichonadwy wedi’r dirwasgiad, ac wedi Prydain? Nid yw cadw ein pennau yn isel a pharhau i siarad iaith rheolwriaeth mewn cyfnod o argyfwng yn ddewis.

Dros annibyniaeth

Mae’n amlwg o’r trafodaethau yng nghynhadledd ddiweddar Plaid Cymru bod datblygiadau yn yr Alban wedi annog aelodaeth Plaid Cymru i feddwl am y posibiliadau ar gyfer Cymru. Roedd yr hyn oedd yn ymddangos bron yn amhosibl cyn mis Mai y llynedd bellach yn ymddangos yn bosibl, a hyd yn oed o fewn cyrraedd. Mae’r cwestiwn ‘beth ydy’n diben ni?’ a holwyd yn dilyn y bleidlais ‘Ie’ lwyddiannus fis Mawrth diwethaf wedi ei ateb: nid yw Plaid Cymru erioed, ac ni fyddai erioed, yn derbyn sefyllfa lle rydym yn cael ein hystyried yn ail i’r Alban. Mae pobl Cymru yn gwybod bod ein synnwyr o hunaniaeth cenedlaethol yr un mor gryf â synnwyr hunaniaeth ein chwriorydd a’n brodyr yn yr Alban a Lloegr. Mae Plaid Cymru yn sefyll dros annibyniaeth i Gymru.

Ond nid yr Alban yw Cymru. Tra bod llawer y gall Plaid Cymru ei ddysgu oddi wrth yr SNP mae pleidiau eraill o fewn y grŵp Cynghrair Rhyddid Ewropeaidd (EFA) y dylem ddysgu oddi wrthynt a chreu cysylltiadau cryfach â nhw. Mae’r Bloque Nacionalista Galego (BNG) o Galicia neu’r PNC (Corsica) neu’r UDB (Llydaw) yn debycach i Gymru ac i Blaid Cymru o ran eu statws cymdeithasol economaidd, ieithyddol a gwleidyddol, yn ogystal â’u huchelgeisiau a’u golwg economaidd. Mae’r dair yn werdd ac ar ochr chwith y sbectrwm gwleidyddol – yn agos at ble mae Cymru a’r Blaid.

Y cwestiwn ‘allwn ni ei fforddio?’

Byddai’r rhan fwyaf ohonom sydd eisiau annibyniaeth i Gymru yn derbyn bod cyflwr gwan economi Cymru yn golygu y byddem yn cael trafferth i fforddio bil lles cyfredol Cymru. Yr hyn sydd yn cyfrannu’n fawr at y gwendid hwn yw’r nifer uchel o bobl sydd yn ddibynnol ar fudd-daliadau’r wladwriaeth. Mae rhesymau hanesyddol a gwleidyddol dros hyn. Tra na fyddai gan Blaid Cymru ddim amynedd gyda beio pobl sydd yn ddiwaith am ddiweithdra, ni fyddem chwaith yn ceisio cosbi’r rhai sydd yn ddibynnol ar fudd-daliadau’r wladwriaeth, fel y mae’r pleidiau unoliaethol Prydeinig yn ei wneud. Rhaid mynd i’r afael â’r nifer uchel o bob sydd yn ddibynnol ar fudd-daliadau lles mewn unrhyw ymgais o ddifrif i wyrdroi economi Cymru. Gellid gwneud hyn trwy ddarparu cefnogaeth ac anogaethau i bobl i ffurfio eu mentrau creu gwaith eu hunain ac adeiladu Cymru o’r gymuned i fyny, a defnyddio mesurau tebyg i’r rhai a gynigir yn y ddogfen ‘Greenprint’.

Mae’n anhebygol y byddai trafodaethau cyfansoddiadol yn cydio yn nychymyg pobl yn gyffredinol oni bai bod ganddynt ddiddordeb byw mewn gwleidyddiaeth. Y cwestiwn mwyaf sydd yn wynebu’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru heddiw yw sicrwydd economaidd eu hunain a’u teuluoedd. Mewn cyfnod cymharol fyr mae swyddi diogel mewn perygl. Bydd toriadau yn y sector cyhoeddus yn taro galetaf yng Nghymru lle mae’r sector cyhoeddus yn ganran uwch o’r economi nag mewn rhannau eraill o’r wladwriaeth Brydeinig. Mae’r farchnad wedi methu â darparu swyddi mewn rhannau o Gymru ers yr 1980au a chyn hynny, ac felly mae’r siawns y bydd y sector cyhoeddus yn llenwi’r bwlch a gaiff ei greu gan y sector cyhoeddus yn ystod yr hyn sydd yn ddirwasgiad dwfn yng Nghymru, yn denau. Mae perygl y bydd y problemau cymdeithasol sydd yn gyffredinol gysylltiedig gyda diffyg cyflogaeth, neu gyflogaeth o ansawdd isel, yn ehangu ac yn dwysau oni bai bod camau cadarn yn cael eu cymryd i newid dirywiad economaidd ein gwlad. Rhaid i Blaid Cymru roi blaenoriaeth i strategaethau all gyflwyno cyflogaeth llawn.

Yn ôl y cymdeithasegwr Michael Hechter, mae datblygiad economaidd Cymru yn nodweddiadol o economïau trefedigaethol eraill fel y rhai yn America Ladin: economïau a adeiladwyd i hwyluso allforio unrhyw adnoddau naturiol gwerthfawr yn hawdd. Gyda seilwaith economaidd a adeiladwyd i sicrhau cludo prif gynnyrch y wlad, glo, allan o’r wlad mae Cymru hyd heddiw wedi ei llesteirio gan system drafnidiaeth fewnol lle mae pob llinell gyfathrebu yn arwain at “ y brifddinas imperialaidd neu’r porthladdoedd’. Mae’r seilwaith hwn, yn ogystal â statws ‘ymylol’ Cymru yn cyfrannu at wendid strwythurol annorfod yn economi Cymru. Roedd Leopold Kohr, proffwyd ein hargyfwng cyfredol, yn dadlau na ellir atal y llif tuag at y canol ‘trwy dywallt pytiau adnewyddol o ddiwydiant newydd mewn dull haelionus i’r ymylon’. Mae gwaith Kohr yn esbonio methiant cronfeydd cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag ymdrechion aflwyddiannus eraill blaenorol i hybu economi Cymru. Mae gan economi Cymru gwendidau strwythurol na ellir eu cywiro trwy chwarae gyda nhw. Dim ond pan fo pobl Cymru, yn eu holl amrywiaeth, mewn sefyllfa i ail lunio yn sylfaenol eu seilwaith economaidd mewn ffordd sydd yn ateb eu hanghenion a phan nad ydynt bellach yn gorwedd ar erchwyn ymylol gwladwriaeth Brydeinig eithriadol o anghyfartal y gellir cywiro’r ffaeleddau hyn. Dim ond trwy annibyniaeth y gellir gwella canlyniadau economaidd Cymru a’u gwneud yn gyfartal gyda’r rhannau eraill hynny yn y wladwriaeth Brydeinig neu’r Undeb Ewropeaidd. Annibyniaeth yw’r cyfrwng i hybu economi sydd wedi bod yn aros yn ei hunfan am bron i ganrif.

Swyddi, swyddi, swyddi …

Yn y cyfamser, mae’r argyfwng economaidd dwys yn mynnu atebion i fynd i’r afael â diweithdra nawr. Pe bai gan Lywodraeth Cymru y gallu i amrywio budd-daliadau yn ogystal â rheolau trethi byddai hynny’n hwyluso cynllun swyddi ‘Adeiladu Cymru’ a fyddai’n ceisio darparu swydd i bawb sydd yn gallu gweithio gan helpu ail adeiladu seilwaith economaidd Cymru mewn modd a fyddai o fudd i bobl sydd yn byw yng Nghymru. Dyma gynnig rhesymau cadarn dros ddatganoli pwerau o’r fath.

Yn ei lyfr ‘Is Wales Viable’ (1971) mae Leopold Kohr yn cefnogi datblygiad marchnad fewnol neu ‘gartref’ lle mae’r arian sydd yn cael ei ennill yng Nghymru yn cael ei wario yng Nghymru ac yn ysgogi gweithgaredd economaidd lleol a fyddai yn ei dro yn creu swyddi. Byddai dull ‘mae bach yn hardd’ fel y mae Kohr yn ei annog, yn cefnogi mentrau lleol bach dros y cwmnïau rhyngwladol. Dylid cael cefnogaeth ariannol ac ymarferol i ddod â marchnadoedd newydd i nifer o gwmnïau bach i’w hannog i gyflogi un neu ddau o hyfforddeion neu weithwyr newydd i feithrin gallu fel bod modd iddynt dendro am gontractau nwyddau neu wasanaethau cyhoeddus lleol. Gallai’r adroddiad gan Adam Price a Kevin Morgan (The Collective Entrepreneur, 2011) ar gaffael cyhoeddus a menter cymdeithasol fod o gymorth i lywio’r gwaith hwn.

Wrth ei farchnata yn greadigol gallai ‘brand’ Cymreig o gynnyrch wedi’i gynhyrchu’n lleol mewn dull masnach deg/cydweithredol ddod yn adnabyddus ledled y byd fel rhywbeth naturiol ac iach. Gyda chefnogaeth, gellir ymestyn (ar gyfer defnydd mewnol neu allforio) ar sectorau megis bwyd, y diwydiannau creadigol, technoleg gwyrdd a gweithgynhyrchu cynnyrch terfynol ar gyfer marchnadoedd ‘niche’.

Nid yw’r brwydro byd-eang dros reolaeth olew a’r darogan am olew brig yn mynd i ddiflannu. Os yw economi Cymru yn mynd i gael ei datblygu’n gynaliadwy, mewn dull sydd yn cyd-fynd gydag ymrwymiad ein plaid i gyfrannu at ymdrechion y byd i fynd i’r afael â newid hinsawdd, rhaid i’n cynllun economaidd osod datblygu cynaliadwy wrth galon ein holl bolisïau, a chynnwys mesurau a fydd yn sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio ar gyfer y pontio i economi nad yw’n ddibynnol ar danwydd ffosil. Fel y gwnaethpwyd yn Denmarc rhaid i bobl Cymru gael rheolaeth a pherchnogaeth lawn o adnoddau naturiol os ydym yn mynd i atal yr arian sydd yn llifo o Gymru. Dylai’r gwaith a’r elw a wneir o hynny gael ei gadw yn lleol lle mae hynny’n bosibl. Rhaid ystyried diogelwch ynni, er mai’r newyddion da yw fod Cymru eisoes yn hunan gynhaliol mewn trydan – rydym yn allforio ein trydan a’n dŵr sydd dros ben ac felly mae gennym lawer i’w adeiladu arno.

Gallai buddsoddi mewn, ac annog cwmnïau cydweithredol yn eiddo i’r gweithwyr fel yr hyrwyddwyd gan DJ a Noelle Davies yn yr 1930au a’r 1940au, yn gysylltiedig gyda sefydliadau addysg helpu i adeiladu sgiliau i sicrhau llafur lleol. Gallai gweithwyr medrus yn y sector cyhoeddus gael dewis llai o oriau gweithio i gyfrannu tuag at fentrau o’r fath. Gallai cynllun economaidd wedi’i ysbrydoli gan Davies/Kohr i symud oddi wrth economi tanwydd ffosil a datblygu marchnad fewnol i greu galw am waith yn lleol, ddechrau gyda rhaglen insiwleiddio cartrefi gan dargedi ardaloedd o dlodi tanwydd uchel a thrwy hynny lleihau marwolaethau ychwanegol y gaeaf yn deillio o dlodi tanwydd ymysg pobl hŷn, tra’n cefnogi busnesau lleol bach a chwmnïau cydweithredol i wneud y gwaith hwn. Byddai hyn yn creu swyddi ac yn helpu i gwrdd ag ymrwymiadau Cymru i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr o 40% erbyn 2020 ac i weithio tuag at Gymru Un Planed – byw oddi mewn i’n gallu adnoddau gan ddefnyddio ein cyfran deg o adnoddau naturiol byd-eang y byd yn unig. Byddai hefyd yn helpu i greu gwytnwch i wynebu ergydion prisiau bwyd ac ynni yn y dyfodol.

Gellid cael cyngor ymarferol trwy gysylltu gyda, a dysgu gwersi oddi wrth y Daniaid a’r Basgiaid. Mae ynys Samsø yn Denmarc wedi dod yn 100% hunan gynhaliol mewn trydan adnewyddadwy ac mae rhwydwaith gydweithredol gweithgynhyrchu Mondragon yng Ngwlad y Basg, a sefydlwyd yn yr 1950au fel coleg hyfforddi cydweithredol, ond a ehangodd i weithgynhyrchu yn ystod yr anawsterau economaidd a greodd ddiweithdra uchel yno yn yr 1980au, bellach yn cyflogi miloedd. Gallai ymweliadau astudiaeth i Samsø a Mondragon lywio a hyd yn oed ysbrydoli aelodau Plaid Cymru i gymryd rhan mewn sefydlu a rhedeg cwmnïau cydweithredol o’r fath. Dylid annog gweithgarwch o’r fath fel bod modd i aelodau mewn dull ymarferol iawn gyfrannu at gryfhau economi Cymru.

Cydraddoli canlyniadau

Mae cyfraddau diweithdra ymysg ieuenctid yn uchel iawn mewn rhai mannau. Mae cystadleuaeth i gael addysg neu hyfforddiant, heb sôn am swydd, yn golygu bod diweithdra hir dymor ymysg ieuenctid yn bygwth ychwanegu at y problemau cymdeithasol sydd wedi bod yn datblygu dros y degawdau ers diwedd y diwydiant trwm yng Nghymru. Mae tai fforddiadwy yn broblem gynyddol i bobl ifanc hefyd. Rhaid i unrhyw ymdrechion i adeiladu economi Cymru ddarparu atebion amgen i’r bobl a’r lleoedd lle mae’r farchnad wedi methu: rhaid i weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru annibynnol gynnwys nod bendant i gydraddoli canlyniadau economaidd ar gyfer pob ardal, yn ogystal ag ar gyfer yr holl unigolion sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Er gwaethaf unarddeg mlynedd o dderbyn arian gan yr Undeb Ewropeaidd, mae GDP Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi dirywio o 76% o gyfartaledd Ewrop yn 2000 i 71% heddiw. Gellid wrth gwrs dadlau, heb yr arian hwnnw, y byddai’r sefyllfa yn waeth. Mae GDP yn fesur amrwd nad yw’n gallu cymryd i ystyriaeth anghyfartaleddau mewn ardal benodol. Mae cynllunio ar gyfer twf economaidd parhaus ar fesurau traddodiadol yn anghynaliadwy, ond mae digon o fesurau eraill sydd yn dangos bod gweithgaredd economaidd ac incwm Cymru yn dirywio mewn perthynas â gwledydd a rhanbarthau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid i ddadleuon dros annibyniaeth fynd i’r afael â safle economaidd berthynol Cymru.

Mae cynllun economaidd sydd yn talu sylw neilltuol i grwpiau ac ardaloedd daearyddol yng Nghymru sydd yn cael eu heffeithio yn anghymhesur yn hanfodol os ydym yn mynd i osgoi caniatau parhad economi sydd yn gorboethi yn y canol ar draul yr ymylon. Oni bai bod camau yn cael eu cymryd i ail gydbwyso’r sefyllfa, rydym mewn perygl o greu strwythur economaidd yng Nghymru sydd yn dynwared strwythyr economaidd y wladwriaeth Brydeinig: un sydd yn gweld economïau yn y tir ymylol yr ydym yn byw ynddo – Cymru (yn ogystal â’r gwledydd a’r rhanbarthau eraill) – yn ddibwys o’i gymharu ag economi gorboeth Llundain a’r de ddwyrain. Rhaid i weledigaeth Plaid Cymru gynnwys nod bendant i gydraddoli canlyniadau economaidd i bob rhan o Gymru yn ogystal ag i bob unigolyn sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Nid yw’r cynlluniau a ddatgelwyd yn ddiweddar i sefydlu Parthau Menter yn ceisio cydraddoli canlyniadau ledled Cymru. Byddai parthau menter ‘go iawn’ yn datganoli, er enghraifft, y gwaith o hyrwyddo arbenigedd sectorau neilltuol mewn ‘canolfannau rhagoriaeth’ daearyddol, i ffwrdd o goridorau economaidd llwyddiannus yr M4 a’r A55, gan ddatblygu ‘prifddinasoedd’ Cymreig newydd. Ein harfordir gorllewinol yw un o asedau mwyaf Cymru ac nid yw’n cael ei ddefnyddio’n llawn. Pam na allwn ni geisio anelu’n benodol at ysgogi ardaloedd ymylol Cymru trwy ddatblygu sectorau gweithgynhyrchu niche ‘gwerth ychwanegol’ yn y ‘prifddinasoedd’ newydd – Aberystwyth, Abertawe, Bangor, Casnewydd, Wrecsam ac yn y cymoedd gan ddefnyddio Caergybi, Abergwaun ac Aberdaugleddau fel canolfannau i wella cysylltiadau gydag Iwerddon a thu hwnt ar gyfer allforio?

Cymru Flaengar

Trwy flaenoriaethu’r dasg o ffurfio rhaglen fanwl o greu swyddi sydd wedi’i dylunio i adeiladu Cymru gynaliadwy mewn modd sydd yn anelu ar gydraddoli canlyniadau economaidd, gallai Plaid Cymru gyflwyno gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sydd yn cyd-fynd â thraddodiadau a hanes Cymru a meddwl hir dymor Plaid Cymru.

Er mwyn bod yn wrthbwynt i’r llywodraeth dros y ffin sydd yn eithafol o gystadleuol, imperialaidd/filitaraidd, sydd yn anwybyddu newid hinsawdd ac yn preifateiddio llywodraeth, dylai gweledigaeth economaidd Plaid Cymru fod yn un sydd yn anelu at economi wedi’i datganoli lle mae cyfranogiad pobl mewn gwneud penderfyniadau economaidd lleol yn cael ei ddefnyddio i’r eithaf. Mae ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yn cynnwys cymunedau gweithgar, gwydn wedi’u cefnogi gan wasanaeth cyhoeddus cadarn a seilwaith lles mewn diwylliant gwleidyddol sydd yn mynnu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Gallai ein cynllun swyddi greu darlun o Gymru’r dyfodol sydd yn cymryd ymagwedd economaidd mwy cydweithredol, gwrth filitaraidd, gwrth imperialaidd, cynaliadwy ac o blaid gwasanaethau cyhoeddus a fyddai’n dangos sut y byddai Cymru annibynnol yn wahanol yn wleidyddol ac yn well ar gyfer pobl Cymru, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: yn fwy blaengar ac yn unol â’n gwleidyddiaeth na’r hyn y mae Lloegr-ganol yn pleidleisio drosto yn barhaus, waeth beth fo lliw’r blaid. Nid yw’r wleidyddiaeth sydd yn cael ei arddel gan yr holl bleidiau prif ffrwd ar lefel y wladwriaeth Brydeinig yn arddangos yr un gwerthoedd â’r rhai a gynyrchiolir gan y pleidiau ar lefel Cymru ac mae datganoli wedi darparu gofod gwleidyddol fel bod modd mynegi ac ymestyn yr ystyron a’r gwerthoedd gwleidyddol amgen, gwahanol hyn.

Gan ildio dim i’r propaganda adain dde sydd wedi twyllo nifer o bobl i gefnogi mesurau a fydd yn sicrhau bod y tlotaf mewn cymdeithas yn talu am argyfwng 2008, dylai Plaid Cymru barhau i wrthwynebu rhaglen llymder y wladwriaeth Brydeinig, a ddyluniwyd gan grŵp o filiwnyddion hunanlesol, sydd yn cynnal ymosodiad nas gwelwyd o’r blaen ar fudd-daliadau tra’n darparu dim gobaith am swyddi. Byddai cefnogi rhaglen swyddi wedi’i hanelu at ostwng anghyfartaleddau yng Nghymru a rhwng gwledydd cymharol eraill yn dangos sut y mae’r gwerthoedd sosialaidd yn dal i fodoli yma, a sut y gellir eu cynnwys mewn polisïau all gynnig dewis cadarn i lymder gorfodol. Gall Ed Milliband freuddwydio am symud y tir canol tua’r chwith, ond yng Nghymru rydym eisoes yno. Wedi’u clymu wrth linynau ffedog Llundain, ni all y Blaid Lafur fanteisio ar y cyd-destun Cymreig. Plaid Cymru yw’r unig blaid all ddatblygu gweledigaeth wirioneddol amgen i Gymru, yn seiliedig ar ein hegwyddorion sylfaenol fel pobl ac nid ’unrhyw bobl gyffredin’ fel y cawsom ein hatgoffa gan Gwyn Alf.

Mae’r Alban ar y ffordd i ryddid oherwydd bod llywodraeth SNP gref yn arwain y ffordd, yn darparu sicrwydd ac yn cyfleu hyder sydd wedi galluogi’r bobl i gredu y gall eu gwlad sefyll ar ei thraed ei hun yn economaidd. Mae cefnogaeth yn tyfu dros annibyniaeth yn yr Alban. Mae hyn wedi’i gyflawni er gwaethaf, neu gellid dadlau oherwydd y cyd-destun ecomomaidd sydd wedi newid cymaint. Mae’n debygol bod y rhan fwyaf o bobl yr Alban bellach yn gweld y bydd eu gwlad yn well ei byd pan gaiff ei rhyddhau o’r undeb Prydeinig.

Ennill ymddiriedaeth

Fel yr SNP, rhaid i Blaid Cymru ddod yn blaid fwyaf yn y Senedd. I wneud hynny rhaid i Blaid Cymru ennill ymddiriedaeth pobl gyda chynllun clir a realistig i ddangos sut y gall economi Cymru fod yn llwyddiannus, a chynllun y bydd mwyafrif pobl mewn etholiad yng Nghymru yn fodlon ei gefnogi. Ni fyddwn yn cyrraedd yno oni bai ein bod yn gallu ateb y cwestiwn ‘all Cymru fforddio annibyniaeth?’ yn hyderus ac yn alluog.

Mae gan gynrychiolwyr Plaid Cymru ar bob lefel, yn cynnwys gweithwyr dros y blaid ar lefel cyngor cymuned a stryd, ran i’w chwarae mewn adeiladu cynghreiriau lleol sydd eu hangen i droi ein cynllun swyddi yn realaeth. Byddai gweithgaredd o’r fath yn ein cymunedau yn arddangos yn gadarn ein bod yn gallu fforddio a chyflawni’r hyn yr oedd Raymond Williams yn ei alw yn annibyniaeth ‘go iawn’, lle y byddai ein cysylltiadau economaidd a chymdeithasol yn gwella wrth i anghyfartaleddau gael eu lleihau. Mae’r ddadl dros Gymru annibynol yn ddadl dros ddemocratiaeth gyfranogol o’r math nad yw’n bodoli ar hyn o bryd yn y DU. Mae’r ddadl dros annibyniaeth wedi’i mapio allan gan awduron ac artistiaid, rhai wedi’u crybwyll yma, ond mae hefyd yn ddadl na ellir ei hennill ond trwy ddadleuon economaidd.

Rhaid i ni dderbyn yr her honno.

Leanne Wood, Ionawr 2012

Gwefan: www.leannewood2012.com
Ebost: leanneplaid@gmail.com
Trydar: @leannewood
Facebook: www.facebook.com/profile.php?id=613235070

Cysylltwch â mi trwy un o’r dulliau uchod i ddarllen mwy, i gefnogi ac i gyfrannu i’r ymgyrch.

7.10.11

Cymru: annibyniaeth wleidyddol neu gyd-ddibyniaeth?

Cymru: annibyniaeth wleidyddol neu gyd-ddibyniaeth?

Adran Athronyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru

Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth

9:30yb – 3:30yh , Gwener, 14 Hydref 2011

Gyda phwerau newydd i’r Senedd ym Mae Caerdydd beth fydd diwedd y daith ddatganoli?

Annibyniaeth gwleidyddol? Neu a’i camsyniad yw credu fod y fath gysyniad yn bosib mewn cyfnod o globaleiddio economaidd ac undod gwleidyddol cynyddol ar y lefel Ewropeaidd?

Yn gynhadledd undydd hon cynhelir nifer o ddarlithoedd a thrafodaethau ar y pwnc gan dynnu sylw at syniadaeth nifer o athronwyr ar y cwestiwn Cymru: annibyniaeth wleidyddol neu gyd-ddibyniaeth?

Yn cymryd rhan fydd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Yr Arglwydd Elystan Morgan a Dafydd Elis-Thomas AC.

Er mwyn archebu eich lle, e-bostiwch post@meddwl.com , ffoniwch 07970 025843, neu cysylltwch a ni drwy’r post: Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, 29 Sryd y Frenhines, Aberystwyth, Ceredigion, SY231PU.

13.9.11

Mae Cymru'n rhy dlawd i fod yn Annibynnol - rydym yn dibynnu gormod ar Loegr!

Does dim dwywaith arni, rydym fel cenedl yn wan, fel pobl yn ddibrofiad ac yn israddol i bawb arall yn y byd. Nid ydym cystal â’r Saeson na chwaith yr Almaenwyr. Rydym yn aros yn ein hunfan gan falio am bawb a phob peth a gwneud dim. Nid ydym yn ddigon da yma yng Nghymru i benderfynu ar ein dyfodol. Nid oes gennym y talent i wella’n gwlad, rhaid i ni felly ofyn am gymorth y dynion busnes hael o ochr draw i glawdd Offa. Nid oes fawr o bwynt i ddefnyddio’r iaith sydd yn ein cau ni allan, yn ein gosod ni ar wahân i bawb. Rydym yn byw yn oes ein cyndeidiau ac o hyd yn edrych i’r gorffennol.

Dyna felly yw eich barn os nad ydych yn cefnogi annibyniaeth a llwyddiant i Gymru yn fy marn i. Mae nifer o hyd yn mynnu bod Cymru yn rhy dlawd ac yn wlad sydd rhy fechan i fod yn annibynnol, ac mae hyn yn fy nghythruddo i siwt gymaint. Mae’n wir i ddweud bod Cymru’n dlawd a bod yr economi’n wan, does dim dwywaith arni. Ond does neb yn cwestiynu pam. Pam fod Cymru’n dlawd? Pam nad yw’r economi gystal â economi Lloegr neu’r Alban?. Does neb yn gofyn y cwestiynau hyn serch hynny maent yn gwneud yr un ddatganiad bod Cymru’n rhy dlawd fel petai’n ddu a gwyn, yn anffodus nid yw bywyd yn ddu a gwyn.

(Daw'r Llun isod o Flickr, nid fi bia'r hawlfraint) 

Mae ‘da fi ambell i ganfyddiad felly i geisio esbonio pam fod Cymru’n dlawd. Mae Cymru’n gorfod cystadlu gyda Llundain (sef canolfan cyfoethocaf ar ran economi Ewrop gyfan. Rhaid i economi Cymru cyd-fynd â strategaethau, polisïau, trethi sydd yn gwmws yr un peth a Llundain a’r de ddwyrain. Felly mae gyda chi un o rannau tlotaf Ewrop yn ceisio cystadlu gyda’r man cyfoethocaf? Does dim amheuaeth felly taw hwn yw un o brif problemau economi Cymru fel gwlad. Mae’r annhegwch hyn sydd yn bodoli parthed buddsoddi economaidd a chynllunio economaidd Cymru yn ein niweidio fel gwlad ac os na wnawn ni feddwl yn radical i gyfeiriad hunan lywodraeth llawn ac annibyniaeth, mae arnaf ofn na fydd dim byd yn newid.

Byddai nifer yn dweud mai yng Nghymru y mae’r polisïau hynny’n cael eu llunio. Ac i ryw raddau mae hynny’n wir ond nad oes gan Lywodraeth Cymru’r grymoedd angenrheidiol i wneud newid sydd o bwys. Hynny yw datganoli treth corfforaethol. Treth incwm ac amryw o drethi eraill a all gwneud gwahaniaeth enfawr. Wrth gydymffurfio ar un polisïau â de dwyrain Lloegr felly mae Cymru’n cwympo ar eu hol hi unwaith yn rhagor.

Byddai eraill yn dweud bod Cymru yn cael ei sybsadeiddio gan Loegr am ein bod ni’n rhy dlawd ac felly byddai Cymru annibynnol yn bendant yn chwalfa dros nos. Fe es i ati felly ar twitter i ofyn am dystiolaeth gadarn a oedd yn profi bod Cymru yn cael ei sybsadeiddio gan Loegr, a ie yn wir doedd ‘na ddim un ffynhonnell yn gallu awgrymu hynny. Yn wir soniodd rhai am GVA gan ddweud bod Cymru’n tan gyflawni ac felly ein bod yn rhy dlawd. Ond beth nad yw’r GVA yn cymryd i mewn i ystyriaeth yw’r cyfoeth sydd yn cael ei gynhyrchu oddi wrth adnoddau dynol Cymru.

Diolch i Peter Hain, does dim modd mesur cyfoeth ein hadnoddau dynol, fel y seliwyd mewn cymal yn neddf llywodraeth Cymru 2006. Mae Cymru yn pwmpio bilynnau o galwyni o ddŵr i Loegr yn flynyddol ond nid yw’n derbyn yr un ceiniog amdano. Mae Cymru hefyd wedi anfon ceirt llawn llechi, glo, dur, haearn, calch ac aur i Loegr draw heb weld yr un dimau goch yn dod yn ôl. Nawr wrth osod yr ystadegau hynny sydd fan hyn yn eu cyfystyr mae yma le i ystyried felly, y byddai Cymru’n dipyn yn gyfoethocach os yn annibynnol gan yn sicr byddai’r elw yn dod yn ôl i Gymru fel nad yw ar hyn o bryd. Ac felly mae edrych ar y fath ystadegau yn gamarweiniol.

Cyfeiriodd aelod arall i mi, bod Cymru yn derbyn £112 o bunnoedd am bob £100 yn mae’n anfon o arian trethi i SanSteffan. Ydy hyn felly yn profi bod Cymru’n rhy dlawd? Nac ydy. Byddai Cymru annibynnol yn wlad hollol wahanol gyda blaenoriaethau gwahanol. Ac felly nid yw’n deg na chwaith yn briodol cymharu tebyg wrth debyg. Gallwn gymharu methiannau Cymru nawr ag methiant Prydeindod yn sicr gan dim ond felly yr ydym yn gwybod. Ond na allwn gymharu Cymru annibynnol â'r Cymru sydd ohoni nawr gan fydd popeth mor wahanol.

Yn wir mae dyddiau Prydeindod wedi dod i derfyn, ac mae’r byd wedi symud ymlaen ers oes imperialaidd ymerodraethol y frenhines Victoria. Mae’n bryd i Gymru hefyd symud ymlaen. Fel gwlad rydym wedi cael ein hesgeuluso, ein hanwybyddu a’n gwthio i’r neilltu gogyfer dibenion pobl eraill. Rydym hefyd wedi gosod anghenion y rheiny sydd yn fwy ffodus o blaen ein hanghenion ni. Ni fydd anghenion Cymru byth yn flaenoriaeth i SanSteffan, ac mae llais Cymru o fewn y senedd yn prysur gwanhau’n fwy. Gwaethygu bydd pethau os yn aros gyda’r undeb nid gwella.

I wyrdroi’r gosodiad bod Cymru’n rhy dlawd i fod yn annibynnol. Hoffwn i hefyd ddadlau’n wahanol. Mae Cymru’n wlad gyfoethog iawn. Ond nid ydym yn gweld gwerth na datblygiad yn y meysydd a all fod o fudd i ni. Ein hadnoddau dynol hynny yw. Fe soniwyd yn y papurau yn ddiweddar bod na rhagdybio i nwy Shale gwerth hyd at 70 biliwn a mwy o dan haen lofaol de Cymru, os yn wir ac nad yw Cymru’n annibynnol pwy chi’n credu bydd yn medi ffrwyth y canfyddiad? Am wlad fach mae gan Gymru gwerth biliynau o adnoddau dynol y gallwn eu datblygu. Y glo (88% ar ôl) Y llechi, Nwy Shale, dwr, dur a nifer fwy. Beth sydd gan wledydd megis yr Iseldiroedd a Ffrainc parthed adnoddau dynol fel sydd gennym ni yma yng Nghymru?  

Mae angen i ni fel gwlad magu’r hyder i wybod bod y gallu yno gennym i lwyddo. I gyfeirio yn ôl at y paragraff cyntaf, nid ydym yn bobl israddol, mae gennym ni’r un gallu a phob gwlad arall yn y byd. Rydym i gyd oll yn Gymry falch a byddwn i’n tybio bod mwyafrif yn cefnogi annibyniaeth ar sail eu gwladgarwch ond yn ofni’r goblygiadau o achos clebar yr unoliaethwyr.

Yr hyn sydd gen i ddweud wrthych chi yw, a dymunwch i Gymru fod yn frawd bach dinod mewn ‘undeb’ nad yw’n unedig? A ydych yn ddigon hapus i barhau i weld Cymru’n colli cyfleodd o hyd ac o hyd? A ydych yn hapus i gydnabod ein bod ni fel gwlad yn amherthnasol ac yn amhwysig felly? Dwi ddim a dwi’n credu ei fod e’n hen bryd i ni fel gwlad gymryd yr awenau a’r cyfrifoldeb dros ein tynged ni’n hunain. Rydym yn ddigon parod i bwyntio bys i bob cyfeiriad gan feio'r byd ar betws cyn cwympo ar ein bai. Gydag annibyniaeth daw cyfrifoldeb a gyda chyfrifoldeb daw canlyniadau. Heb y cyfrifoldeb hwnnw mae arnaf ofn bydd Cymru wastad yn rhedeg mewn hanner marathon yn hytrach na marathon llawn y byd real.

Yn wir mae’r hyn dyweda bobl am ‘ y llwybr llithrig i annibyniaeth’ yn hollol anghywir. Rydym eisoes mewn llwybr llithrig, yn llithro mewn pob tabl economaidd, yn llithro ar ran ein diwylliant, ein hiaith a’n llais ar lwyfan ryngwladol y byd. I wyrdroi’r gosodiad hwnnw hoffwn i weld Cymru’n dringo’r llwybr uchelgeisiol hynny at annibyniaeth a derbyn dim llai. Rydym yn Gymry a chyn gystal ag unrhyw bobloedd arall a bodola yn ein byd. 

MEDDYLIWCH DDWYWAITH - CEFNOGWCH ANNIBYNIAETH I GYMRU 

10.9.11

Cenedlaetholwyr Ffug - Byddwch yn genedlaetholwyr go iawn!

'Efe sy’n gelyniaethu pan na fo angen yw’r efe sy’n ddall i’r gelyn go iawn'

Rwy'n syrffedu weithiau yn clywed pobol o hyd yn pwyntio bys ac yn beio’n holl broblemau ar y Saeson. Yn wir, ganrifoedd yn ôl gwnaeth cam-lywodraethu Lloegr niwed fawr i Gymru, ond dŵr dan bont yw hynny a’r sefyllfa sydd yn ein wynebu ni nawr lle bod gan Gymru llywodraeth ei hunain yw’r un y dylwn ganolbwyntio arni.  Ni yw’r rhai sydd yn ethol ac yn dewis ein llywodraeth, ni yw’r rhai sydd yn gallu dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth ar lefel lleol neu genedlaethol. Mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn atebol i bobl Cymru. Mae gennym rhyw afael ar annibyniaeth gwleidyddol, a phe fyddai’n amlwg bod mwyafrif y Cymry yn awchu am annibyniaeth go iawn, mi fyddwn yn sicr o’i ennill.

Ni sydd yn gyfrifol am ddyfodol Cymru. Efallai’n wir bod gosod y bai ar y Saeson yn rhyw fwch ddihangol cyfleus i nifer, ond mae hefyd yn golygu nad yw’r bobl hynny yn cymryd cyfrifoldeb, mae gennym oll gyfrifoldeb dros ddyfodol ein gwlad a sut gwlad y dymunwn fyw ynddi. Mi fyddwn i mor bowld a dweud bod y problemau sydd yn ein wynebu ni fel gwlad heddiw yn deillio’n uniongyrchol o’n gweithredoedd ni fel pobol. Ar ein liwt ni  ydyw yn awr i gyd weithio i wella pethau yng Nghymru. Nid yw mabwysiadu agwedd pesimistaidd hunangyfiawn a phwyntio bys at Loegr yn mynd i ddatrys dim byd. Heddiw nid y gelyn o du allan yw’n gelyn fwyaf; ond y gelyn o du mewn.

Ydyn ni eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn goroesi ac yn ffynnu? Yng Nghymru bydd yr atebion i’r cwestiynau hynny, ymysg y Cymry. Ydyn ni eisiau Annibyniaeth gwleidyddol? Eto, y Cymry fydd yn gwneud y penderfyniad hwnnw, nid y Saeson. Yr hyn rydym ni’n ei wneud fydd yn selio ein tynged fel gwlad.

Maddeuwch i mi am bregethu ymlaen ond dwi’n cael fy nghythruddo gyda meddylfryd y ‘cenedlaetholwyr plastig’ neu ‘gwladgarwyr honedig’ wrth ddweud hynny dwi’n golygu y rheiny sydd o hyd yn parablan ymlaen parthed cael yn ôl ar y Saeson, yn dadlau dros beint o gwrw, yn hiraethu am hen ddyddiau Mudiad amddiffyn Cymru, ond ddim yn gwneud dim byd o bwys. Mae byd y rhyfela ymysg gwledydd yr ynysoedd hyn wedi dod i derfyn. Os, a phryd bydd Cymru yn ennill ei hannibyniaeth, bydd yn annatod i ni weithio gyda’n gilydd, yn enwedig ein cymydog agosaf Lloegr, yn deg ac yn gyfartal megis cyfeillion. Nid yn unig yn wrthgynhyrchiol ydyw egino teimladau atgas yn erbyn Saeson, mae’n ragfarnllyd ac yn sarhad ar Gymru bod ‘na gyn lleied o unigolion sy’n ‘genedlaetholwr plastig’ sydd ond yn dwyn enw gwael ar Gymru yn hytrach na gwneud unrhyw beth o bwys. 

Dwi’n wladgarwr ac yn genedlaetholwr, a dwi’n falch iawn i ddatgan hynny. Dwi credu’n gryf mewn cenedlaetholdeb lluosganolog, sy’n datgan bod Cymru yn gyfartal ac nid yn well na’r un gwlad arall, ac yn haeddu’i hannibyniaeth gwleidyddol. Rhaid i mi bwyntio hyn allan, achos bod na nifer o ddehongliadau i’r term ‘cenedlaetholdeb’, mae rhai yn ei ystyried gyda chenedlaetholdeb monoganolog yr Almaen Natsiaidd, neu Loegr yn yr 19eg ganrif, sydd ond yn derm arall yn y bôn ar gyfer imperialaeth, y gred bod un gwlad yn oruwch i wlad arall a bod ‘na ddyletswydd arnynt i orchfygu gwledydd israddol sy'n llai. Mae’r fath hynny o genedlaetholdeb yn wenwyn i mi, ac mi fyddwn i’n brwydro i’r diwedd yn ei erbyn. Dwi’n gadarn yn ymrwymedig i’r weledigaeth cenedlaetholgar lluosganolog ar gyfer Cymru. Nid ydym yn well na neb arall – boed yn Gymry, Saeson, Albanwyr, Somaliaid, Tsieni ayyb., rydym i gyd oll yn perthyn i ddynol rhyw ac nid oes yr un ohonom yn oruwchnaturiol ac yn well na’r gweddill ohonom.  

Ydych chi am i’r iaith Gymraeg ffynnu? Ymunwch â Chymdeithas yr iaith Gymraeg a gwnewch rywbeth amdano, fel ein bod yn cael gwireddu’r weledigaeth. Cwynwch at Fwrdd yr iaith Gymraeg, neu’r comisiynydd newydd fydd cyn hir yn ei disodli am sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â deddf yr iaith Gymraeg. Ysgrifennwch lythyrau i’r wasg i godi ymwybyddiaeth. Ymunwch mewn ymgyrchoedd o weithredu uniongyrchol, di-drais ac anufudd-dod sifil i warchod yr iaith. Byddwch yn weithgar.

Ydych chi am weld Annibyniaeth gwleidyddol? Ymunwch neu bleidleisiwch dros Blaid Cymru, ac ymrowch eich hun i geisio hybu, egino ac ennyn dadl a chefnogaeth ar ddyfodol ein gwlad ymysg ein cydwladwyr. Efallai’n wir mae’n swnio’n ddiflas neu’n smala yn erbyn rhyfeloedd gwylliad a tharo ergydion i’r Saeson, neu fel y mae’r ‘cenedlaetholwyr plastig’ o hyd yn brolio, ond trwy ddulliau democrataidd yn unig wnawn ennill y frwydr hon. Fel dywedodd ymgyrchydd blaenllaw y mudiad cenedlaethol erstalwm ‘Rhaid ymladd brwydrau’n presennol, nid y gorffennol’.

Beth sydd angen fwyaf ar Gymru yw i’w phobl i ddeffro a chael gwared ar eu hapathi a sylweddoli ein bod ni’n gallu adeiladu’n cenedl gyda’n gilydd. Mae gennym oll gyfrifoldeb i gymryd rhan. Mae areithiau mawr bondigrybwyll a theimladau cenedlaetholgar yn wych ydyn, ond er mwyn egino’r achos a sbarduno’r genedl i ymgymryd yn y dasg o arwain ein gwlad rhaid i ni gyd gyfrannu, i gyd fod yn weithwyr caib a rhaw. A dim ond gyda dulliau di-drais heddychlon fe wnawn ni lwyddo.

Yn wir, fe ddylwn gofio’n harwyr cenedlaethol a’n merthyron. Dylwn gofio Llywelyn, Glyndŵr a rheiny wnaeth colli’u gwaed dros ein gwlad ‘tros ryddid collasant eu gwaed’. Dylwn gofio Tryweryn a gwrthod unrhyw beth sydd yn dod yn agos i’r fath ddigwyddiad  yn y dyfodol, y digwyddiad wnaeth arwain at foddi Capel Celyn. Mae’n iawn ac yn deilwng i ni wneud hynny. Ond mae ‘Cenedlaetholwyr plastig’ serch hynny, o hyd yn byw mewn rhyw oes aur yn y gorffennol, ac maent yn colli gafael ar y bywyd real sydd yn ein wynebu ni heddiw.

Mae dyddiau Llywelyn a Glyndŵr wedi hen fynd. Mae’r bobl y brwydrant yn eu herbyn hefyd wedi hen fynd. Nid oes yna frenhiniaeth Gymreig rhagor, ac hyd yn od pe tasai, mi fyddwn yn ymgyrchu yn eu herbyn, gan fy mod i’n weriniaethwr. Roedd Llywelyn a Glyndŵr yn arwyr eu hoes, ond yn y llyfrau hanes ydyw’r oes hwnnw bellach. Nid yw byw yn y gorffennol yn cyflawni dim byd.

Beth yw pwrpas y pregeth hwn? Yr hyn dwi’n ceisio ei ddweud yw: os ydych yn galw’ch hunan yn genedlaetholwr, ymrwymwch eich hun yn y gwaith caib a rhaw i adeiladu a chryfhau’n cenedl a’n diwylliant. Da chi i beidio a gwastraffu’ch amser yn byw yn y gorffennol ac yn ymddwyn fel ‘cenedlaetholwr plastig, edrych y part, a siarad siop ond cyflawni dim byd. Cewch wared ar y rhethreg a thorchwch eich llewys dros Gymru.

Cyfieithais i'r erthygl gwych hwn gan Barry Taylor o'i flog Bywyd Un Dyn. Diolch yn fawr i Barry Taylor am gytuno i mi gyfieithu'r erthygl hwn. Mae'n anhygoel! 

Egwyddor Annibyniaeth - Nid aur yw popeth melyn

Ni o hyd yn clywed y dadleuon ariannol ac economaidd parthed annibyniaeth i unrhyw wlad nad yw’n sofran ar hyn o bryd. Yr hen ‘Ma Cymru’n rhy dlawd w!’ neu ‘Licen i weld Cymru’n annibynnol ond swmo dicon o arian ‘da ni t’wel’. (Tafodiaith Dyffryn Aman, ymddiheuriadau os nad ydych yn deall). Mae’r un dadleuon wedi cael eu defnyddio i orchfygu gobeithion pob cenedl nad oedd yn annibynnol yn y gorffennol ond sydd yn bellach. Defnyddiwyd yr un ddadl yn erbyn De Affrica, Seland Newydd, Gwledydd Sgandinafia, Lithwania, Latfia, Yr Wcráin, oes angen ymhelaethu’n fwy?  Ac mae’r gwledydd hynny i gyd i weld wedi goroesi’n iawn. 
 
Dwi ddim yn dweud nad yw’r economi’n bwysig, ffwlbri llwyr fyddai hynny, yn wir mae’r economi yn fater sy’n holl bwysig, ond un mater ymhlith coeden o faterion ydyw ac na ddylwn defnyddio’r rheswm hwn yn unig i gau pen y mwdwl ar unrhyw obeithion dros gael gwlad annibynnol. Rhywle yn y ddadl mae’r elfen foesol, yr elfen egwyddorol hynny fel petai’n mynd ar goll.

 (Nid fi bia'r hawlfraint dros y llun i'r dde)

Beth am ystyried egwyddor y peth, beth am hawl yr unigolyn mewn byd democrataidd i selio ffawd eu hunain? I benderfynu ar eu dyfodol? Nid aur yw popeth melyn medde rhai, ond yn anffodus wrth drin a thrafod annibyniaeth mae’r elfen ariannol o hyd yn mynd â hi. Byddwn i’n ddigon parod i ddadlau’n wahanol.

Onid oes hawl gan bob gwlad a phob cenedl yn y byd i ddewis eu blaenoriaethau a’u trywydd unigryw wrth sefyll ar lefel rhyngwladol y byd?. Mae’r elfen gyfalafol a chyfalafiaeth wedi dominyddu’r ddadl dros Annibyniaeth yn rhy hir o lawer. Beth am wneud yr aberth hwnnw, y safiad hwnnw dros eich balchder a’ch dyfodol? Pa wlad a ddymunwch i’ch plant fyw ynddi? Un nad yw’n sofran? Un sydd o hyd yn gorfod ymbil ar Lywodraeth San Steffan am ddimai goch? Un sydd yn cwyno am bawb a phob peth gan bwyntio bys i bob cyfeiriad, heb gymryd cyfrifoldeb dros ei hun?

Does dim dwywaith byddai unoliaethwyr yn defnyddio gwledydd megis Iwerddon, Gwlad yr Ia i ddiwallu’r galw dros annibyniaeth. I ddweud nad yw Cymru’n ddigon fawr neu nad oes ganddi ddigon o sylwedd i allu ymdopi mewn marchnad economaidd dwys byd eang. Ond nid ydynt yn sôn am y gwledydd bychain hynny sydd wedi ymdopi’n llawer gwell na’r mawrion megis yr U.D.A a D.U. O na ffôl byddai hynny. Peidiwch da chwi a chymharu gallu nag ysbryd y Cymry i arwain ac i lywodraethu dros ein hunain.

Eto, ofn y ddiarwybod ydym. Os nad yn mentro fe arhoswn yn yr unfan.  Dwi’n barod i fentro, mae’n amser cymryd risg, nid trywydd hawdd didrafferth byddai Annibyniaeth, bydd trafferthion ar hyd y trywydd hwnnw, ond ein trywydd ni bydd hi, ein dewis ni, yn ein gwlad ein hunain. Y dewis egwyddorol hwnnw dros gynorthwyo’n hun i fyw bywyd gwell. Peidiwch â meddwl nad ydym fel Cymry yn ddigon cymwys i arwain ein gwlad. Dwli llwyr yw hynny a pheidiwch ag ildio i drafod annibyniaeth ar bob cyfryw ac achlysur. Os na wnawn ni egino’r ddadl mi ddeith yr amser lle nad oes yr un elfen o hyder na chwaith yr hunanbenderfyniaeth i gryfhau ac i wella statws ein cenedl.

Meddyliwch Ddwywaith – Cefnogwch Annibyniaeth. 

4.8.08

Diwedd Prydeindod: RIP


Ymysg yr holl frefu am waed Gordon Brown mae yna un elfen sydd yn treiddio fel byrdwn emyn trwy'r holl sylwadau newyddiadurol ac ar lein, sef bod Brown yn Sgotyn.

Does dim modd i Sgotyn ennill calon ganol Lloegr! Pa hawl sydd gan Sgotyn i bennu polisi Prydeinig pan fo gan yr Alban ei Senedd ei hun? Pam bod Prydain yn cael ei reoli gan y Scottish Raj?

Does dim ddwywaith bod cenedligrwydd Gordon Brown yn gwneud niwed difrifol i obeithion etholiadol y Blaid Lafur. Os ydy Mr Brown yn cael ei ddisodli does gan yr un Sgotyn arall, beth bynnag ei allu na'i rinweddau, gobaith mul o gael ei godi i arweinyddiaeth Llafur yn ei lle.

Mae hyn yn adlais o gyfnod Neil Kinnock fel arweinydd y Blaid Lafur, y Welsh Windbag yn ôl y papurau tabloid. Roedd y gair Welsh yn gymaint o sen ar Kinnock ag oedd y gair Windbag yn y cyswllt sarhaus yma - roedd y ffaith bod Kinnock yn Welsh gymaint (os nad fwy) o reswm dros beidio â'i ethol, a'r awgrym ei fod yn Windbag!

Fel mae'r safle sydd yn ei gyfrif fel Arwr yn dweud:

The tag of “Welsh windbag” stuck and Neil Kinnock was never taken to the hearts of Middle England, where the marginal seats that Labour needed in order to take power were concentrated.

Sydd yn codi'r cwestiwn, pe bai Llafur yn cael ei arwain gan Sais ym 1992, a fyddai'r Blaid Lafur wedi gwneud yn well, hyd yn oed wedi ennill etholiad y flwyddyn honno?

Mae agweddau'r wasg Seisnig tuag at genedl Brown a Kinnock yn brawf nad oes modd i Sgotyn na Chymro dod yn Brif weinidog y Deyrnas Gyfunol byth eto. Bydda bobl o ddawn Lloyd George neu Ramsey Mac ddim yn dderbyniol i Brydain y dwthwn hwn.

Os nad oes modd i Gymro neu Sgotyn dod yn brif weinidog y Deyrnas Gyfunol eto, onid yw hynny yn brawf bod y Cyfundeb eisoes wedi trengi?

Ac os yw'r Undeb wedi marw onid ydi'n hen bryd inni dderbyn y ffaith, claddu'r corff a pharatoi am i fywyd mynd rhagddo ar ôl y cynhebrwng?

Mae'n rhaid i'r rhai sydd â chariad mawr at yr Undeb hyd yn oed, derbyn bellach bod yr Undeb, megis hen daid hoffus, wedi marw - mae ei ddyddiau wedi dod i ben.

(David Milliband yw'r un yn y llun, sydd yn aberthu ei hun dros Loegr)

27.3.08

Cymru'n Deffro - Gwynfor Evans



Daw'r sain o record byr gan Gwynfor Evans yn dilyn ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymr ym 1966. Sain - Recordiau'r Dryw, Christopher Davies Ltd, Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Lluniau - wedi eu codi o'r we a mannau eraill. Testun Isod - gan Islwyn Ffowc Elis, oddi ar gefn y record.

GWYNFOR EVANS, Llywydd Plaid Cymru, a'i Haelod Seneddol cyntaf - dros Gaerfyrddin. Gwr a allasai fod yn y Senedd ers blynyddoedd lawer petai wedi newid ei blaid. Gwr a allasai wneud enw mawr iddo'i hun yn y Gyfraith, ond a ddewisodd ddychwelyd i'r wlad i gychwyn tai gerddi. Fe'i magwyd yn Barri, ac wedi tyfu'n llanc y daeth yn rhugl yn y Gymraeg. Teithiodd bron bob milltir sgwar o Gymru i gyhoeddi neges ei rhyddid hi. Ystyrir ef heddiw gan filoedd yn broffwyd y Gymru fydd.